Brwydr Stryd Watling
Brwydr fawr tua'r flwyddyn 61 OC oedd Brwydr Stryd Watling, rhwng yr Iceni a'r nawfed lleng Rhufeinig, sef Legio IX Hispana. Ymladdodd y llwyth Celtaidd o dan eu harweinydd Buddug ac fe lwyddasant i gipio Verulamium (St Albans), y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum (Colchester), ynghyd â phorthladd Londinium (Llundain).
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 60, 61 |
Rhan o | goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid |
Lleoliad | Stryd Watling |
Gwladwriaeth | Britannia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brysiodd y rhaglaw Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn gyda byddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr enfawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran nifer, roedd y llengfilwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.