Ymladdwyd Brwydr Tal-y-bont yn 893 rhwng cynghrair o Gymry a gwŷr Mersia yn erbyn y Daniaid a oedd wedi martsio yr holl ffordd o Essex. Fe'i ymladdwyd ger Tal-y-bont (Buttington) ym Maldwyn, Powys, ar lan afon Hafren i'r gogledd-ddwyrain o Drefaldwyn.

Brwydr Tal-y-bont
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGweithgaredd Llychlynaidd ar Ynys Prydain Edit this on Wikidata
LleoliadTal-y-bont, Maldwyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.67°N 3.09°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod893 Edit this on Wikidata

Y frwydr

golygu

Daeth byddin Cymru a Lloegr i fyny Afon Hafren, a gwarchae ar bob ochr i amddiffynfa Tal-y-bont lle'r oedd y Llychlynwyr wedi gwersylla. Dywed y Cronicl Eingl-Sacsonaidd:

"ar ôl i wythnosau lawer fynd heibio, bu farw rhai o'r anwariaid [Llychlynwyr] o newyn, ond fe wnaeth rhai, ar ôl bwyta eu ceffylau erbyn hynny, dorri allan o'r gaer, ac ymuno â'r frwydr gyda'r rhai oedd ar lan ddwyreiniol yr afon. Ond, pan laddwyd miloedd lawer o baganiaid, a'r lleill i gyd wedi ffoi, roedd y Cristnogion [Cymru a Saeson] yn feistri ar safle'r lladdfa. Yn y frwydr honno, lladdwyd yr Ordheah a llawer o phendefigion y brenin."[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Buttington, Possible site of battle near Welshpool". Royal Commission on Historic Sites in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-05. Cyrchwyd 2019-07-30.