Roedd Brwydr Verdun yn un o frwydrau pwysicaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymladdwyd y frwydr rhwng byddinoedd yr Almaen a Ffrainc dros gyfnod o bron flwyddyn, rhwng 21 Chwefror ac 18 Rhagfyr 1916 o gwmpas dinas Verdun-sur-Meuse ym Meuse, gogledd-ddwyrain Ffrainc. Verdun oedd brwydr hwyaf y rhyfel, ac un o'r rhai mwyaf gwaedlyd; lladdwyd dros chwarter miliwn o filwyr ar y ddwy ochr a chlwyfwyd o leiaf filiwn.

Brwydr Verdun
Rhan o'r Ffrynt Gorllewinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Map y Brwydr
Dyddiad 21 Chwefror 1916 - 18 Rhagfyr 1916
Lleoliad Verdun-sur-Meuse
Canlyniad Buddugoliaeth pyrrhic i Ffrainc
Cydryfelwyr
Baner Ffrainc Ffrainc Yr Almaen
Arweinwyr
Baner Ffrainc Philippe Pétain
Baner Ffrainc Robert Nivelle
Erich von Falkenhayn
Coron Tywysog Wilhelm
Nerth
c. 30,000 ar 21 Chwefror 1916 c. 150,000 ar 21 Chwefror 1916
Anafusion a cholledion
378,000; bu farw 163,000 337,000; bu farw 143,000

Erbyn dechrau 1916, roedd y sefyllfa ar y ffrynt gorllewinol wedi sefydlogi, a nifer o ymdrechion gan y ddwy ochr i dorri trwodd wedi methu. Penderfynodd pennaeth y fyddin Almaenig, Erich von Falkenhayn, ymosod ar ardal Verdun. Y bwriad gwreiddiol oedd dechrau'r ymosodiad ar 12 Chwefror, ond bu raid gohirio am wythnos oherwydd y tywydd. Ar ddechrau'r ymosodiad, enillodd yr Almaenwyr lawer o diriogaeth. Ar 25 Chwefror cipiasant Fort Douaumont. Apwyniwyd y cadfridog Philippe Pétain i fod yn gyrifol am yr amddiffyniad Ffrengig, a llwyddwyd i arafu ymosodiad yr Almaenwyr. Galluogodd hyn y Ffrancwyr i ddod a mwy o filwyr ac adnoddau rhyfel i faes y gad ar hyd y Voie Sacrée o Bar-le-Duc.

Parhaodd yr ymosodiadau am fisoedd, gyda cholledion enbyd ar y ddwy ochr. Ar 1 Mai cymerodd y cadfridog Robert Nivelle le'r cadfridog Pétain. Ar 22 Mehefin 1916, defnyddiodd yr Almaenwyr nwy gwenwynig am y tro cyntaf yn y rhyfel. Ar 1 Gorffennaf dechreuodd Brwydr y Somme, ymosodiad Prydeinig gyda pheth cymorth Ffrengig i geisio lleihau'r pwysau ar Verdun.

Gwrth-ymosododd y Ffrancwyr ar 21 Hydref 1916, a chipiasant Fort Douaumont ar 24 Hydref. Erbyn ymosodiad olaf y Ffrancwyr a ddechreuodd ar 11 Rhagfyr, roedd yr Almaenwyr wedi eu gyrru yn ôl bron i'w man cychwyn.