Brwydr Waterloo

Ymladdwyd Brwydr Waterloo ar 18 Mehefin 1815 gerllaw pentref Waterloo yng Ngwlad Belg. Brwydrai byddin o Ffrainc, o dan arweinyddiaeth Napoleon Bonaparte, yn erbyn cynghrair byddinoedd Prydain, o dan arweinyddiaeth Dug Wellington, a Phrwsia, o dan arweinyddiaeth Gebhard Leberecht von Blücher.

Battle of Waterloo 1815.PNG
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad18 Mehefin 1815 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfeloedd Napoleon Edit this on Wikidata
LleoliadMont-Saint-Jean Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
RhanbarthBraine-l'Alleud Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hon oedd y frwydr dyngedfennol yn ymgyrch Napoleon i adennill pŵer wedi iddo ddianc oddi ar Ynys Elba. Wedi iddo golli brwydr Waterloo fe alltudiwyd Napoleon unwaith yn rhagor, y tro hwn i ynys Sant Helena.

Codwyd Pont Waterloo ger Betws-y-Coed yn yr un flwyddyn, i gofio'r frwydr.

Ailactio'r frwydr yn 2011 ar faes y gad

Gweler hefydGolygu