Pont Waterloo
pont ar Afon Llugwy, ger Betws-y-Coed
Pont haearn hynafol ar Afon Conwy ger Betws-y-Coed, Sir Conwy, yw Pont Waterloo.
Math | pont ffordd, pont fwa |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brwydr Waterloo |
Agoriad swyddogol | 1816 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Betws-y-coed |
Sir | Betws-y-coed |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 13.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.0852°N 3.7953°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
- Am y bont yn Llundain o'r un enw gweler Pont Waterloo, Llundain.
Lleolir y bont rhyw hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r pentref. Fe'i codwyd gan y peiriannydd sifil enwog Thomas Telford. Mae arysgrifen ar fwa'r bont yn cofnodi iddi gael eu hadeiladu yn yr un flwyddyn â Brwydr Waterloo: ond tra bod y bont wedi ei chynllunio a'r rhannau haearn wedi eu hadeiladu yn 1815, ni chwblhawyd codi'r bont yn y flwyddyn honno. Cafodd ei godi i gludo'r hen Lôn Caergybi (yr A5 bellach). Mae Pont Waterloo wedi ei gwneud yn gyfangwbl o haearn (ac eithrio'r ddau fastion carreg sy'n ei chynnal ar y ddwy lan), y seithfed bont yn y byd i gael ei chreu felly.
Gweler hefyd
golygu- Pont-y-Pair, Betws-y-Coed
- Pont Bangor-is-y-Coed
Cyfeiriadau
golygu- Quartermaine et al (2003) Thomas Telford's Holyhead Road: The A5 in North Wales, Council for British Archaeology ISBN 1-902771-34-6