Brwydr y Boyne
Ymladdwyd Brwydr y Boyne ar 1 Gorffennaf 1690 ar lan Afon Boyne yn Iwerddon, i'r gogledd o Ddulyn.[1] Brwydr rhwng dau frenin a hawliai goron Lloegr oedd hi. Gorchfygodd Wiliam III/II o Loegr a'r Alban y cyn-frenin Iago II. Er nad oedd yn frwydr fawr ynddi'i hun - ychydig iawn a laddwyd - roedd yn drobwynt yn hanes Iwerddon am fod Wiliam yn Brotestant ac yn cael ei gefnogi gan ymsefydlwyr Protestannaidd y gogledd. Canlyniad hir-dymor y frwydr oedd Goruchafiaeth y Protestaniaid a darostwng y Catholigion brodorol. Dethlir buddugoliaeth Wiliam hyd heddiw gan Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.
Math | brwydr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhyfel y Ddau Frenin |
Lleoliad | Drogheda |
Sir | Swydd Meath |
Gwlad | Teyrnas Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.7231°N 6.4236°W |
Cyfnod | 11 Gorffennaf 1690, 1 Gorffennaf 1690 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brown, Derek (11 Gorffennaf 2000). "How the battle of the Boyne earned its place in history". The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2016.