Afon Boyne
Afon yn Leinster, Iwerddon, yw Afon Boyne (Gwyddeleg: An Bhóinn).[1] Ei hyd yw tua 112 km (70 milltir). Mae'n tarddu yn Trinity Well, Newbury Hall, ger Carbury, Swydd Kildare, ac yn llifo i'r gogledd-ddwyrain trwy Swydd Meath i gyrraedd Môr Iwerddon ger Drogheda. Gellir dal eogiaid a brithyll yn yr afon, sy'n gorwedd yn Nyffryn Boyne.
Math | afon |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bóand |
Daearyddiaeth | |
Sir | Laighin |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.7167°N 6.25°W, 53.351899°N 6.956763°W, 53.72208°N 6.24353°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Llednentydd | Afon Blackwater, Kildare and Meath |
Dalgylch | 2,695 cilometr sgwâr |
Hyd | 112 cilometr |
Er nad yw'n afon hir, mae gan afon Boyne lle arbennig ym mytholeg, archaeoleg, a hanes Iwerddon. Mae'n llifo heibio i dref hynafol Trim a'i gastell, Bryn Tara (hen brifddinas Uchel Frenhinoedd Iwerddon), Navan, bryn Slane, Brú na Bóinne (siambr gladdu Neolithig), Abaty Mellifont, a dinas ganoloesol Drogheda. Yn Nyffryn Boyne ceir henebion eraill hefyd, fel Loughcrew, Kells, a sawl croes Geltaidd. Ymladdwyd Brwydr y Boyne, un o'r brwydrau mwyaf tyngedfennol yn hanes Iwerddon, ar lannau'r Boyne ger Drogheda yn 1690.
Mae'n llifo heibio safle enwog Brú na Bóinne sy'n gasgliad o feddrodau a seilwaith o'r Oes Newydd y Cerrig (gelwir hefyd yn Neolithig) sydd wedi'i restru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO er 1993.
Mae'r afon yn adnabyddus ers dyddiau Ptolemi, sy'n cyfeirio ati fel afon Bubinda. Cyfeiriodd Gerallt Gymro ati fel Boandus. Ym mytholeg Iwerddon dywedir fod yr afon yn cael ei chreu gan y dduwies Boann, a 'Boyne' yw'r Seisnigiad o'r enw Hen Wyddeleg hwnnw. Yma hefyd y cafodd Fionn mac Cumhaill yr eog hud Fiontán, "Eog Gwybodaeth".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022