Brwydr yr Haleliwia
Brwydr yn 430 OC oedd Brwydr yr Haleliwia (neu Frwydr Maes Garmon), a ymladdwyd rhwng y Brythoniaid dan arweiniaeth Sant Garmon a'r Pelagiaid - a oedd yn ennill tir yn ynys Prydain oherwydd dylanwad Agricola - a byddin o Eingl-Sacsoniaid.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 430 |
Lleoliad | Yr Wyddgrug |
Tra'r oedd ym Mhrydain, arweiniodd Garmon y Brythoniaid i fuddugoliaeth yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid. Wedi bedyddio ei fyddin, gorchmynodd Garmon iddynt weiddi "Haleliwia", gan godi arswyd ar y gelyn nes iddynt ffoi. Yn ôl traddodiad, ymladdwyd y frwydr ar safle ger Yr Wyddgrug.
Roedd "Brwydr yr Haleliwia" yn destun poblogaidd gan feirdd ac eisteddfodau'r 19eg ganrif.