Garmon
Roedd Garmon (Ffrangeg: Germain Lladin: Germanus; tua 378 – 31 Gorffennaf 448) yn esgob Auxerre yng Ngâl. Ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Gatholig a'r Eglwysi Uniongred; ei ddydd gŵyl yw 31 Gorffennaf. Y brif ffynhonnell ar gyfer ei hanes yw'r fuchedd a ysgrifennwyd gan Constantius o Lyon tua 480. Roedd Constantius yn gyfaill i'r esgob Lupus, aeth gyda Garmon ar ymweliad â Phrydain.
Garmon | |
---|---|
Ganwyd | 378 Auxerre |
Bu farw | 31 Gorffennaf 448 Ravenna |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Roman Catholic Bishop of Auxerre, esgob esgobaethol |
Dydd gŵyl | 31 Gorffennaf |
Gyrfa
golyguOrdeiniwyd Garmon yn esgob Auxerre gan Sant Amator, ei ragflaenydd yn y swydd. Dywedir iddo fod yn gyfreithiwr ac yn llywodraethwr talaith cyn troi at yr eglwys. Tua 429, daeth y newydd fod Pelagiaeth yn ennill tir ym Mhrydain oherwydd dylanwad Agricola, mab i esgob. Mewn cyfarfod o esgobion Gâl dewiswyd Garmon a Lupus, esgob Troyes, i ymweld a Phrydain i wrthwynebu dylanwad Agricola.
Cyfarfu Germanus a Lupus gyda'r Pelagiaid mewn cyfarfod cyhoeddus mawr ym Mhrydain. Dywedir i Garmon gael y gorau ar y Pelagiaid oherwydd ei allu rhethregol. Wedi'r cyfarfod aeth Germanus a Lupus i ymweld a bedd Sant Alban, sy'n awgrymu efallai fod y cyfarfod yn Verulamium.
Tra'r oedd ym Mhrydain, arweiniodd Garmon y Brythoniaid i fuddugoliaeth yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid mewn brwydr a elwir yn Frwydr yr Haleliwia neu Frwydr Maesgarmon. Wedi bedyddio ei fyddin, gorchmynodd Garmon iddynt weiddi "Haleliwia", gan godi arswyd ar y gelyn nes iddynt ffoi. Yn ôl traddodiad, ymladdwyd y frwydr ar safle ger Yr Wyddgrug.
Daeth Garmon i Brydain eilwaith yn y 440au, gyda Severus, Esgob Trier. Bu farw yn Ravenna pan oedd yn apelio am drugaredd i drigolion Armorica (Llydaw), wedi i Flavius Aëtius yrru'r Alaniaid i'w cosbi. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei farw; gallai fod yn 445, 446, 447 neu 448. Mae ei fedd yn Eglwys yr Abaty yn Auxerre.
Eglwysi
golyguMae nifer o eglwysi yng ngogledd Ffrainc wedi eu cysegru iddo, gan gynnwys Abaty Saint-Germain d'Auxerre yn Auxerre ac Eglwys Saint-Germain-L'Auxerrois gyferbyn a'r Louvre ym Mharis. Nid oes sicrwydd ai ef yw'r "Garmon" sy'n cael ei goffhau yn enw Betws Garmon yng Ngwynedd, Llanarmon-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a Capel Garmon yng Nghonwy, ond mae eglwys wedi ei chysegru iddo yng Nghaerdydd. Mae eglwys Sant Harmon, gogledd Powys, yn gysegredig iddo yn ogystal, a cheir plwyf Llanarmon Mynydd Mawr ym Maldwyn.
Llenyddiaeth
golyguGarmon yw arwr y ddrama radio Buchedd Garmon gan Saunders Lewis, sy'n disgrifio ei ymweliad cyntaf a Phrydain yn 429.
Llyfryddiaeth
golygu- E. G. Bowen, The Dedications of the Celtic Saints in Wales.