Bryan Martin Davies
athro a bardd
Bardd Cymraeg ydy Bryan Martin Davies (ganed 1933). Cafodd ei eni yn fab i löwr ym Mrynaman, Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth a thra'r oedd yno daeth i edmygu gwaith T. H. Parry-Williams. Wedi graddio treuliodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Rhiwabon.
Bryan Martin Davies | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1933 Brynaman |
Bu farw | 19 Awst 2015, 26 Awst 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, athro |
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970 ac eto'r flwyddyn ganlynol ym Mangor. Cyhoeddwyd pum cyfrol o gerddi ganddo rhwng 1980 ac 1988.