Brychan Llŷr
Canwr pop Cymraeg a chyflwynydd teledu yw Brychan Llŷr (ganwyd 1970), sy'n enedigol o fferm y tu allan i Aberteifi, Ceredigion.
Brychan Llŷr | |
---|---|
Ganwyd | 1970 Ceredigion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, cyflwynydd teledu |
Tad | Dic Jones |
Plentyndod ac addysg
golyguGaned yn fab i'r Prifardd Dic Jones a Sylvia Jean (Sian) Jones, a mynychodd Ysgol Gynradd Blaenporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi. Aeth ymlaen i astudio celf yng Ngholeg Caerfyrddin.
Ffurfio'r band 'Jess'
golyguFfurfiodd y band Jess gyda ffrindiau ysgol yn 1987 a daeth i wir amlygrwydd yn ystod diwedd yr 1980au, gan chwarae gigs ledled Cymru, a Brychan yn hudo'r merched gyda'i bersona Jim Morrison-aidd, hanner noeth (o'r canol i fyny!)
Rhyddhaodd Jess eu halbwm gyntaf Jess (1988) ar label Fflach, ac fe'i dilynwyd gan Y Gath (1989), a ddangosai aeddfedrwydd anarferol a chyd chwarae tynn ac arbrofol. Cydnabyddir mai eu halbwm nesaf, Hyfryd i Fod yn Fyw (1990) yw eu campwaith. Mae'n un o albwms gorau y 1990au (mewn unrhyw iaith), gyda chlasuron megis "Julia Gitar" a "Shiglidi Bot" yn dangos band yn llithro'n ymddangosiadol ddiymdrech o un arddull i'r llall - seicadelia, gwerin, ffync, roc a phop.[angen ffynhonnell]
Roedd ffiniau'r band roc gitâr traddodiadol yn cael eu gwthio i'r eithaf. Ar ôl rhyddhau Paris Hotel (1992), yn ôl tueddiad y cyfnod, trodd Jess i ganu'n Saesneg, a rhyddhawyd Sextravaganja (1993) a oedd yn cynnwys fersiynau Saesneg o rai o ganeuon Paris Hotel. Recordiwyd rhywfaint o ddeunydd ar gyfer albwm bellach, o'r enw Pink, ond nid yw wedi gweld golau dydd hyd yma, er bod y chwedlau o'i chwmpas yn awgrymu y gallai fod eu halbwm gorau oll.[angen ffynhonnell]
-
Brychan Llyr, Jess. Roc Ystwyth, 1989. Llun: Medwyn Jones.
Canu fel unigolyn
golyguWedi hynny, ar ôl perfformio'n fyw ar deledu cenedlaethol yr Eidal, tawelwch fu o ran Jess, ond ni thawelwyd egni cerddorol Brychan Llŷr. Roedd yr albwm U4Ria (1997) yn dipyn o ymadawiad cerddorol, gyda Brychan yn rhydd i arbrofi efo'i lais dros wahanol fathau o arddulliau dawns (jyngl, hip-hop garage), a bu'n ormod o bwdin i lawer o ffans traddodiadol Jess i'w llyncu. Serch hynny, roedd yn albwm o flaen ei hamser, ac yn gam dewr ymlaen gan artist oedd â'i fryd ar ddilyn llwybr cerddorol bendant ei hun.[angen ffynhonnell]
Mabwysiadodd ymagwedd uniongyrchol, foel ar gyfer ei albwm unigol gyntaf, Veleno Rumoroso (1998), gyda 10 cân acwstig a recordiodd yn ei stiwdio gartref, ond roedd gwreiddioldeb y caneuon dwyieithog a llais anhygoel, aml-haenog Brychan yn nodweddion amlwg.[angen ffynhonnell] Mae ei ail albym unigol Vexed Fanatica (2000) ( Unigolyn? Dwyn llawer o'm syniadau y cwnt!) yn llawer mwy sylweddol - dros 48 munud o hyd, ond roedd yn dangos eto fod byd cerddorol Brychan yn fythol symudol, ac nad oedd diben ei gategoreiddio o dan bennawd unrhyw arddull arbennig. Roedd Bad Pink Vibe (2001) yn albwm fwy hwyliog, a hanner y caneuon wedi eu recordio fel perfformiadau byw, ac roedd yn cynnwys cyfraniad a ffrwyth cydweithio gyda Randy Bernsen, sydd wedi cydweithio gyda rai o enwau mwyaf y sîn jazz gyfoes.
Ei albwm ddiweddaraf yw Reel in Between, sy'n cynnwys cyfraniadau gan ei hen bartner o ddyddiau Jess, Chris Lewis, ac amryw o gerddorion Eidalaidd. Er mai cymharol ychydig o sylw a gafodd ei recordiau unigol yng Nghymru, gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun yn yr Eidal, lle y mae'n ymwelydd cyson.[angen ffynhonnell]
Mae'n rhedeg gwersyll tîpis ar fferm ei deulu ym Mlaenannerch. Sir Benfro, ac mae'n gyflwynydd teledu a radio prysur.