Lleolir Bryniau Galloway yn Ucheldir Deheuol (Southern Uplands) yr Alban, lle maent yn ffurfio ffin ogleddol gorllewin Galloway. Gorweddant o fewn ffiniau Parc Fforest Galloway, ardal o tua 300 milltir sgwar o dir anial heb fawr o drigolion yn byw yno a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth. Merrick (843m) yw'r pwynt uchaf. Ceir nifer o enwau lleoedd unigryw yno, sy'n tarddu o gymysgiad o elfennau Hen Norseg a Gaeleg yr Alban.

Bryniau Galloway
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolParc Coedwig Galloway Edit this on Wikidata
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd300 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.12°N 4.41°W Edit this on Wikidata
Map

Cysylltir y bryniau ag un o'r digwyddiadau mwyaf adnabyddus yn hanes yr Alban, sef enciliad Robert I, brenin yr Alban (Robert the Bruce) o flaen byddinoedd Edward I o Loegr a'i gyfnod ar ffo yn ei wlad ei hun ym Mryniau Galloway gyda dim ond llond llaw o gefnogwyr ffyddlon. Ar ôl hynny llwyddodd i adennill ei deyrnas. Ar achlysur 600 mlwyddiant marwolaeth y Bruce, gosodwyd carreg ger Glentrool i'w goffhau yn 1926. Mae'n atyniad twristaidd heddiw.

Golygfa ar y Rhinns of Kells, Bryniau Galloway
Carreg Bruce (Bruce's Stone), Glentrool
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato