Bugeilyn

llyn ym mryniau Elenydd, yn y canolbarth

Llyn ym mryniau Elenydd yw Bugeilyn a leolir yng ngogledd-orllewin Powys am y ffin rhwng y sir honno a sir Ceredigion, tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o fynydd Pumlumon.

Bugeilyn
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.515099°N 3.736921°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganStatkraft AS Edit this on Wikidata
Map

Bugeilyn yw un o darddleoedd Afon Dulas, un o ledneintiau Afon Dyfi. Mae'n gorwedd tua 480 metr i fyny mewn ardal o waundir gwlyb uchel i'r gogledd-ddwyrain o Bumlumon.

Ceir hen ffermdy adfeiliedig o'r un enw ger y llyn. Ar ben gogleddol y llyn ceir cwt cychod a ddefnyddir gan bysgotwyr. Mae lôn fferm yn dringo i'r llyn o'r bwlch ar y ffordd rhwng Aberhosan a Dylife, gan fynd heibio i lyn Glaslyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.