Bugs Moran
Gangster (neu ddihiryn) o Chicago, yr Unol Daleithiau (UDA), oedd George Clarence "Bugs" Moran (21 Awst 1891 – 25 Chwefror 1957).
Bugs Moran | |
---|---|
Ganwyd | Adelard Cunin 21 Awst 1893 Saint Paul |
Bu farw | 25 Chwefror 1957 United States Penitentiary, Leavenworth |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | lleidr banc, gangster |
Adelard Cunin oedd ei enw'n wreiddiol pan gafodd ei eni yn Saint Paul, Minnesota. Roedd ei rieni yn fewnfudwyr o Wlad Pwyl ac Iwerddon. Pan arestiwyd ef am y tro cyntaf, galwodd ei hun yn "George Miller." Symudodd i Chicago pan oedd yn 19 oed a chysylltwyd ef yn fuan iawn gyda gangiau. Fe'i carcharwyd deirgwaith cyn iddo fod yn 21. Un tro pan gafodd ei arestio, yn hytrach nac ailddefnyddio enwau a oedd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, dywedodd mai ei enw oedd George Clarence Moran. Glynnodd yr enw hwn (Moran) wrtho am weddill ei oes.
Roedd yn casau'r Eidalwyr - gangiau Al Capone ayb - gan eu galw'n "greaseballs" ac yn "dagos". Roedd hyn yn ffyrnigo'i elynion. Fel Pabydd da, roedd Moran yn gwrthod rhedeg hwrdai, gan sbio i lawr ei drwyn ar Capone, yn baeddu ei ddwylo gyda rhwydwaith o buteindai. Dyfnhaodd yr elyniaeth rhwng y ddau gangster.
Bu farw yng Ngharchar Leavenworth, Kansas, ar 25ain Chwefror, 1957.