Bullitt

ffilm acsiwn, llawn cyffro am drosedd gan Peter Yates a gyhoeddwyd yn 1968

Ffilm gyffro Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Peter Yates ac a gynhyrchwyd gan Philip D'Antoni ydy Bullitt. Serenna Steve McQueen, Robert Vaughn a Jacqueline Bisset. Seiliwyd y sgript Alan R. Trustman a Harry Kleiner ar y nofel Mute Witness (1963) gan Robert L. Fish, a oedd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Robert L. Pike. Lalo Schifrin ysgrifennodd y sgôr wreiddiol. Chwaraea Robert Duvall ran fechan yn y ffilm fel gyrrwr tacsi sy'n rhoi gwybodaeth i McQueen.

Bullitt

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Peter Yates
Cynhyrchydd Philip D'Antoni
Ysgrifennwr Alan R. Trustman
Harry Kleiner
Serennu Steve McQueen
Robert Vaughn
Jacqueline Bisset
Cerddoriaeth Lalo Schifrin
Sinematograffeg William A. Fraker
Golygydd Frank P. Keller
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Warner Bros.
Seven Arts
Dyddiad rhyddhau 17 Hydref, 1968
Amser rhedeg 113 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Gwnaed y ffilm gan gwmni McQueen, Solar Productions, gyda'i bartner Robert E. Relyea yn uwch-gynhyrchydd. Cafodd y ffilm ei rhyddhau gan Warner Bros.-Seven Arts ar 17 Hydref, 1968, a bu'n llwyddiannus o ran gwerthiant tocynnau ac ymateb y beirniaid. Ychydig yn ddiweddarach, enillodd Wobr yr Academi am y Golygu Gorau ac enwebiad arall am y Sain Gorau. Mae Bullitt yn nodedig am yr olygfa lle mae car yn cael ei gwrso ar hyd strydoedd San Francisco, golygfa a ystyrir yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol erioed.

Yn 2007, penderfynodd Llyfrgell y Gyngres y dylid cadw Bullitt yng Nghofrestrfa Ffilm Cenedlaethol yr Unol Daleithiau am ei bod "o arwyddocad diwylliannol, hanesyddol, neu esthetaidd".[1]

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu