Bwlch y Tri Marchog
Bwlch mynydd yn y Carneddau, Eryri, yw Bwlch y Tri Marchog. Mae'n gorwedd ar brif grib y Carneddau rhwng Pen yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach, i'r gogledd o bentref Capel Curig yn Sir Conwy.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Mae'r bwlch yn cysylltu Capel Curig a Chwm Eigiau. Mae'r llwybr iddo o gyfeiriad Capel Curig yn dringo'n araf dros lethrau cymhedrol, ond ar yr ochr arall mae'r disgynfa'n syrth iawn. Yn hytrach na'i groesi, mae'r rhan fwyaf o gerddwyr mynydd yn defnyddio'r llwybr o Gapel Curig i'r bwlch fel ffordd rwydd i gyrraedd prif grib y Carneddau.