Pen Llithrig y Wrach
mynydd (798.6m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen Llithrig y Wrach, sir Conwy.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 799 metr |
Cyfesurynnau | 53.1423°N 3.9211°W |
Cod OS | SH7162562293 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 180.3 metr |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Lleoliad
golyguMae Pen Llithrig y Wrach ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd, er bod Creigiau Gleision yr ochr arall i Lyn Cowlyd hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o'r Carneddau.
Llwybrau
golyguGellir ei ddringo ar hyd llwybr sy'n cychwyn o Bron Heulog, ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Curig, neu gellir ei ddringo o'r gogledd-ddwyrain, o gyfeiriad Dolgarrog neu Tal-y-bont.