Mae bwlio yn cyfeirio at weithred bwriadol sydd â'r nod o anafu pobl eraill, boed trwy eiriau, ymosodiad corfforol neu drwy ddulliau mwy cynnil fel manipiwlieddio person. Gellir diffinio bwlio mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er nad oes gan y Deyrnas Unedig ddiffiniad cyfreithiol o fwlio ar hyn o bryd,[1] mae gan rhai taleithiau Americanaidd gyfreithiau yn ei erbyn. Gall aml, mae bwlio'n digwydd er mwyn gorfodi rhywun i wneud rhywbeth drwy fygythiad neu ofn.[2]

Caiff bwlio effaith negyddol ar ddatblygiad a hunan-ddelwedd plentyn

Mewn ysgolion ac yn y gweithle, cyfeirir ar fwlio hefyd fel camdriniaeth cyfoedion.

Mewn iaith lafar, yn aml mae bwlio yn disgrifio modd o erlid a gaiff ei orfodi ar y dioddefwr gan berson sydd â mwy o bŵer corfforol a/neu bŵer cymdeithasol. Weithiau cyfeirir at y person sy'n cael ei fwlio fel y targed. Gall yr erlid fod yn eiriol, corfforol a / neu'n emosiynol. Weithiau bydd bwli yn pigo ar bobl mwy neu lai na hwy o ran maint. Mae nifer o resymau pam y mae'r bwli yn anafu pobl yn eiriol ac yn gorfforol.[3][4] Un o'r rhesymau hyn yw am fod y bwli ei hun wedi dioddef bwlio (e.e. plentyn a gaiff ei gamdrin yn y cartref, neu oedolion sy'n bwlio sydd wedi cael eu trin yn wael gan eu cydweithwyr.

Diffinia'r ymchwilydd Norwyeg Dan Olweus fwlio fel pan fo un person yn "exposed, repeatedly and over time, to negative actions on the part of one or more other persons." Diffinia gweithred negyddol fel "when a person intentionally inflicts injury or discomfort upon another person, through physical contact, through words or in other ways."[5]

Gall bwlio ddigwydd mewn rhywun leoliad lle mae bodau dynol yng nghwmni ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, yr eglwys, y gweithle, yn y cartref ac yn y gymdogaeth. Mae hefyd yn ffactor gwthio cyffredin dros fudo. Gall fwlio fodoli rhwng grŵpiau cymdeithasol, dosbarthiadau cymdeithasol a hyd yn oed rhwng gwledydd.

Effeithiau

golygu

Gall effeithiau bwlio fod yn ddifrifol neu hyd yn oed yn farwol. Dywedodd Mona O'Moore Ph. D o'r Ganolfan Gwrth-Fwlio, Coleg y Drindod, Dulyn "There is a growing body of research which indicates that individuals, whether child or adult who are persistently subjected to abusive behavior are at risk of stress related illness which can sometimes lead to suicide".[6]

Gall y rhai sy'n cael eu bwlio ddioddef o broblemau emosiynol ac ymddygiadol hir-dymor. Mae bwlio hefyd yn gallu achosi unigrwydd, iselder, pryder, hunan-ddelwedd isel a chynyddu'r tebygolrwydd o salwch.[7]

Dywedodd y Gynhadledd Genedlaethol o Ddeddfwriaeth Gwlad:

"In 2002, a report released by the U.S. Secret Service concluded that bullying played a significant role in many school shootings and that efforts should be made to eliminate bullying behavior."[8]

Mathau o fwlio

golygu

Bwlio mewn ysgolion

golygu

Gall bwlio ddigwydd ymhob ardal o ysgol. Er ei fod yn gallu digwydd mewn unrhyw ardal o'r ysgol, mae'n digwydd yn aml mewn chwaraeon, amser egwyl, mewn neuaddau, tai bach, ar fysiau i'r ysgol ac ar y ffordd adref, mewn dosbarthiadau lle ceir gwaith grŵp a/neu mewn gweithgareddau ar ôl ysgol. Weithiau, bydd bwlio mewn ysgolion yn cynnwys criw o ddisgyblion yn cymryd mantais o, neu'n ynysu un disgybl. Byddant yn ennill cefnogaeth disgyblion eraill am eu bod hwythau eisiau sicrhau nad nhw fydd y dioddefwr nesaf. Bydd y bwlïod hyn yn pryfocio a phoeni eu targed cyn bwlio'r targed yn gorfforol. Yn aml, bydd targed y bwlïod yn ddisgyblion a ystyrir yn rhyfedd neu'n wahanol gan eu cyfoedion, a gwna hyn y sefyllfa yn anoddach iddynt ymdopi ag ef. Mae rhai bwlïod yn bwlio am eu bod yn unig, ac mae ganddynt angen mawr i berthyn, ond nid oes ganddynt y sgiliau cymdeithasol i gadw ffrindiau'n effeithiol. Fodd bynnag, mae yna beth ymchwil a awgryma nad yw canran sylweddol i blant ysgol "normal" yn ystyried trais mewn ysgol mewn ffordd mor negyddol a nifer o oedolion, a hyd yn oed yn cael rhyw fath o bleser ohono, ac felly nid ydynt yn gweld rheswm dros ei atal os yw'n dod a phleser iddynt ar ryw lefel.[9]

Bwlio ar y We

golygu

Yn ôl yr addysgwr Canadaidd Bill Belsey, mae hyn yn cynnwys:

...involves the use of information and communication technologies such as e-mail, cell phone and pager text messages, instant messaging, defamatory personal Web sites, blogs, online games and defamatory online personal polling Web sites, to support deliberate, repeated, and hostile behaviour by an individual or group, that is intended to harm others...

Bwlio gwleidyddol

golygu

Mae bwlio gwleidyddol (neu jingoistiaeth) yn digwydd pan mae un wlad yn gwthio'i hawdurdod ar wlad arall. Gan amlaf, caiff hyn ei wneud drwy rym a bygythiadau milwrol. Gyda bygythiadau, mae'n gyffredin i fygwth atal cymorthdaliadau a grantiau i'w wlad fechan neu ddweud na chaiff y wlad fechan ymuno â sefydliad masnachol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Harassment, Discrimination and Bullying Archifwyd 2009-05-12 yn y Peiriant Wayback Prifysgol Manceinion. Adalwyd 28-03-2009
  2. State Laws Related to Bullying AmongChildren and Youth Adalwyd 28-03-2009
  3. The anatomy of human destructiveness. Eric Fromm. Adalwyd 28-03-2009
  4. Man against himself Karl A Menninger. Adalwyd 29-03-2009
  5. Olweus.D A Research Definition of Bullying Archifwyd 2009-03-27 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 28-03-2009
  6. Anti-Bullying Center Archifwyd 2014-01-05 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 28-03-2009
  7. Williams, K.D., Forgás, J.P. & von Hippel, W. (Eds.) (2005). The Social Outcast: Ostracism, Social Exclusion, Rejection, & Bullying. Psychology Press: New York, NY.
  8. School Bullying. National Conference of State Legislatures, Washington, D.C. (Adalwyd 07-12-2007).
  9. Kerbs, J.J. & Jolley, J.M. The Joy of Violence: What about Violence is Fun in Middle-School? American Journal of Criminal Justice. Vol. 32, Rhif. 1-2/ Hydref. 2007.