Mae Bwydlen yn drosolwg o'r hyn a geir i fwyta neu yfed mewn bwyty, yn ogystal â phrisiau'r cynnyrch hynny.

Bwydlen
Mathcyfrwng cyfathrebu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bwydlen

Gall bwydlen gael ei rhannu'n ddwy fath sef a la carte, lle ceir rhestr o brydau gyda phris unigol; neu fwydlen ragosodedig (table d'hôte) lle ceir dechreubryd, prif gwrs a phwdin er enghraifft, wedi eu dewis gan y bwyty am un pris cyfun.

Gall bwydlenni hefyd gynnwys gwybodaeth ychwanegol megis faint o tip i'w roi, neu wybodaeth am y sefydliad.

Mewn sawl bwyty yng Nghymru ceir bwydlenni dwyieithog, ac mae cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd yn cynnig cyfieithu bwydlenni bwytai am ddim.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfieithu am Ddim Archifwyd 2012-01-03 yn y Peiriant Wayback. o wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2011