Arf i dorri coed fel arfer ydy bwyell. Mae'n arf hynafol iawn ac fe'i gwnaed yn gyntaf allan o garreg ac yna o gopr, efydd, haearn ac erbyn heddiw, i gryfhau'r fwyell caiff ei wneud allan o ddur gyda choesyn o bren neu ddefnydd synthetig.

Bwyell
Mathhand tool, separation device Edit this on Wikidata
Yn cynnwysaxe handle, llafn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bwyellwr modern mewn cystadleuath torri coed yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd Avilés, Asturias yn Sbaen.
Bwyell law o Oes yr Iâ.

Mae gan y fwyell ddwy ran, fel arfer: handlen bren er mwyn ei gydio a llafn, sef y darn metel, sy'n hollti'r pren i'r naill ochor a'r llall. Ceir tim o fwyellwyr o ardal Gwynedd o'r enw "Bwyellwyr Gwynedd".

Cyfeiriadau llenyddol golygu

Canodd Alan Llwyd englyn:
I fwyellu'r afallen - daeth ellyll
Gyda thwyll a chynnen,
Eilliodd ym môn briallen
A dileu fy nghenedl hen.
('Awdl i'r Hil Wen'; Eisteddfod Rhuthun 1976)
  Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.