Efydd
Aloi wedi ei wneud o gopr, gyda thun fel y prif ychwanegiad arall yw efydd. Weithiau gall gynnwys elfennau cemegol eraill fel ffosfforws, manganîs, alwminiwm, neu silicon. Mae'n galed ac yn fregus, ac roedd yn hynod arwyddocaol yng nghyfnod y cynfyd, gan arwain at yr enw 'Oes yr Efydd' i ddisgrifio'r cyfnod archaeolegol sy'n dilyn Oes Newydd y Cerrig ac yn rhagflaenu Oes yr Haearn.
Mae'r gair Cymraeg efydd yn gytras â'r gair Hen Wyddeleg emid ac mae'r ddau yn deillio o'r gair Celteg tybiedig *omiio 'metel coch', o'r gwreiddyn *em- 'coch'.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ efydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.