Bwystfil Gévaudan

Bwystfil Gévaudan (Ffrangeg: La bête du Gévaudan) yw'r enw a roddir i nifer o anifeiliad mawr tebyg i fleddiaid a fu'n ymosod ar drigolion talaith hanesyddol Gévaudan yn ne Ffrainc (yn awr département Lozère), rhwng 1764 a 1767.

Bwystfil Gévaudan
Enghraifft o'r canlynolffigwr chwedlonol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ113550931 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifDepartmental archives of Hérault Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun dychmygol o'r 18fed ganrif o un o Fwystfilod Gévaudan, gan A.F. o Alençon.

Disgrifid y bwystfilod fel anifeiliaid mawr, gyda dannedd anferth a blew o liw coch. Yn ôl de Beaufort (1987), bu tua 210 o ymosodiadau, gyda 113 o bobl yn cael eu lladd. Gwnaed ymdrech fawr i hela'r bwystfilod, a daeth yr ymosodiadau i ben wedi i Jean Chastel saethu un yn y Sogne d'Auvers ar 19 Mehefin 1767.

Mae gwahanol syniadau am beth yn union oedd y bwystfilod. Cred rhai mai bleiddiaid arferol oeddynt, a bod elfen o or-ddweud yn yr hanesion. Cred eraill eu bod yn fleiddiaid wedi eu croesi a chŵn, sy'n medru rhoi anifeiliaid sy'n fwy na'r un o'r rheini, a heb ofn bodau dynol.