Bwystfil cynffonnog
Bwystfil Cynffonnog (尾獣 - Japaneg) yw'r term a rhoddir ar gyfer y creadurion pwerus a pheryglus o fewn y gyfres manga ac anime Naruto.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o fodau dychmygol |
---|---|
Math | demon in a work of fiction |
Rhan o | Bijū and jinchūriki |
Cefndir golygu
Yn wreiddiol, pan oedd Doethwr y Chwe Llwybr dal i fyw, torodd y Juubi sef y bwystfil deg-gynffon mewn i naw bwystfil llai. Defnyddiodd dechneg o'r enw Izanagi, sydd yn rhoi'r bŵer i'r defnyddiwr troi breuddwydion yn wir.
Y Naw Bwystfil golygu
Ichibi golygu
Yr Ichibi yw'r bwystfil cynffonog cyntaf. Mae'r creadur yma yn edrych fel rhyw fath o frochlwynog llwydfelyn, gyda adrannau du ar draws ei gorff. Un cynffon sydd ganddo. Jinchuuriki yr Ichibi oedd Gaara o'r Tywod, ac fe gafodd y bwystfil yma ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Nibi golygu
Cath yw'r Nibi gyda dau gynffon. Roedd y bwystfil hon wedi'i selio tu fewn i Yugito Nii, ond cafodd ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Sanbi golygu
Crwban y môr yw'r Sanbi, a thair cynffon sydd ganddo. Yn yr anime, ceisiodd Konoha selio'r Sanbi ond ceisiodd Akatsuki cael gafael arno. Nid oedd angen echdynnu'r Sanbi, gan ei fod wedi'i echdynnu o'r Jinchuuriki, Yagura, yn barod am resymau anhysbus.
Yonbi golygu
Mwnci pedwar-cynffon yw'r Yonbi, arfer ei selio tu fewn i Roshi. Cafodd ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Gobi golygu
Ceffyl yw'r Gobi ac mae ganddo pump o gynffonnau. Han oedd Jinchuuriki y bwystfil hon, ond cafodd ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Rokubi golygu
Malwen yw'r Rokubi ac mae ganddo chwech o gynffon. Cafodd ei echdynnu o Utakata yn llwyddiannus gan Akatsuki.
Nanabi golygu
Chwilen saith-gynffon yw'r Nanabi a chafodd ei selio o fewn Fu. Cafodd ei echdynnu yn llwyddiannus gan Akatsuki.
Hachibi golygu
Bustach yw'r Hachibi gyda wyth o gynffon sydd yn darlunio coesau octopws. Killer Bee yw Jinchuuriki y bwystfil hon, ac roedd Akatsuki yn aflwyddiannus yn cael gafael arno er mwyn ei echdynnu.
Kyuubi golygu
Y Kyuubi yw'r bwystfil cynffonnog mwyaf adnabyddus trwy'r manga ac anime; cadno yw'r Kyuubi, a Naruto yw ei Jinchuuriki. Er bod Akatsuki wedi ceision cael gafael ar Naruto er mwyn echdynnu'r Kyuubi, nid oes unrhyw aelod wedi llwyddo.
Jubi golygu
Y bwystfil cynffonnog gwreiddiol yw'r Jubi. Cafodd ei rannu mewn i naw bwystfil cynffonnog.