Cyfres manga ac anime yw Naruto (Japaneg: ナルト) a grëwyd gan Masashi Kishimoto, sy'n ymwneud â bachgen o'r enw Naruto Uzumaki a'i anturiaethau fel ninja. Mae Naruto yn ymgeisio dod yn Hokage, sef arweinwr a ninja cryfaf y dref. Cafodd y manga ei gyhoeddi am y tro gyntaf gan gwmni Shueisha yn 1999, o fewn cylchgrawn Weekly Shonen Jump. Oherwydd llwyddiant y manga, crëwyd anime o'r gyfres ar y 3 Hydref 2002; 202 o benodau oedd o fewn y gyfres gyntaf, ac mae'r penodau ar gyfer yr ail gyfres a rhyddhawyd ar y 15fed o Chwefror 2007, Naruto Shippuden, dal i gael eu rhyddhau. Yn ychwanegol i'r gyfres, mae cymysgedd o farsiandïaeth Naruto ar gael, fel llyfrau, teganau, gêmau cyfrifiadur ac yna blaen.

Naruto
Enghraifft o'r canlynolcyfres manga Edit this on Wikidata
AwdurMasashi Kishimoto Edit this on Wikidata
CyhoeddwrShueisha, Viz Media, Kana, Editores de Tebeos, Carlsen Verlag, Elex Media Komputindo Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
IaithJapaneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi21 Medi 1999, 3 Tachwedd 2002 Edit this on Wikidata
Genreffuglen llawn cyffro Edit this on Wikidata
CymeriadauNaruto Uzumaki, Sasuke Uchiha, Kakashi Hatake, Shino Aburame, Sakura Haruno, Kiba Inuzuka, Hinata Hyūga, Kurenai Yuhi, Shikamaru Nara, Chōji Akimichi, Ino Yamanaka, Asuma Sarutobi, Neji Hyuga, Rock Lee, Tenten, Might Guy, Gaara, Kankuro, Temari, Zabuza Momochi, Haku, Danzō Shimura, Orochimaru, Kabuto Yakushi, Madara Uchiha, Obito Uchiha, Konan, Hidan, Kakuzu, Nagato, Kisame Hoshigaki, Deidara, Itachi Uchiha, Zetsu, Kaguya Ōtsutsuki, Suigetsu Hōzuki, Karin Kanzuki, Sasori, Jiraiya, Tsunade, Sai, Minato Namikaze, Hiruzen Sarutobi, Killer Bee, Anko Mitarashi, Shizune, Hagoromo Otsutsuki, Iruka Umino, Hashirama Senju, Tobirama Senju, Kushina Uzumaki Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithNinja World Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Naruto ar ôl paratoi'r Rasengan

Bachgen deuddeg mlwydd oed yw Naruto, a Jinchuuriki y Kyuubi, sef cynhwysydd y Kyuubi. Deuddeg blwyddyn cyn y gyfres, fe wnaeth y Kyuubi ymosod ar ddinas Konoha, sef tref gartref Naruto. Ebyrth y Pedwerydd Hokage ei bywyd er mwyn atal y Kyuubi rhag lladd mwy o'r pentrefwyr a chreu mwy o ddifrod trwy selio'r Kyuubi o fewn ei fab, Naruto, pan oedd yn faban newydd ei eni.

Effaith ddrwg cafodd hynny ar Naruto. Cafodd Naruto ei drin fel y Kyuubi ei hun, er nad oedd gan y Kyuubi y pŵer i drechu corff Naruto. Trwy gydol plentyndod Naruto, cafodd ei ochel a'i gam-drin gan y pentrefwyr. O ganlyniad, ymgeisiodd Naruto i ddod yn gryf er mwyn cael cydnabyddiaeth y pentref. Nid oedd Naruto yn gwybod am ddigwyddiad y Kyuubi; ar ôl marwolaeth y Pedwerydd Hokage, fe wnaeth y Trydydd Hokage gosod rheol yn datgan nid i drafod y sefyllfa â phobl tu allan i'r pentref, nag i Naruto ei hun. Wrth i'r gyfres parhau, mae Naruto yn deall bod rhywbeth tu fewn iddo ac yn dechrau dysgu am y digwyddiad yn ymwneud a'r Kyuubi, ond nid am y ffaith taw ei dad yw'r Pedwerydd Hokage.

Mae'r gyfres yn parhau gyda datblygiad Naruto a'i gymrodyr, sef Sasuke Uchiha a Sakura Haruno. Rhan o Dîm Saith yw Naruto, Sasuke, a Sakura, wedi'i arwain gan Kakashi Hatake. Pwrpas y tîm yw dilyn cenadaethau wedi'i dymuno gan bentrefwr o bob math o wledydd. Mae Naruto yn gwneud ffrindiau trwy gydol y cenadaethau, ac yn ymarfer ei fedrau a sgiliau er mwyn dod yn gryf.

Ar ôl cymysgedd o genadaethau, mae Kakashi yn rhoi caniatâd i Dîm Saith cydrannu yn yr Arholiadau Chuunin; pwrpas yr arholiad yw gweld os yw'r tîmau yn barod i wella eu gradd er mwyn gwneud cenadaethau sydd yn fwy anodd. Tra bod Konoha yn paratoi am yr arholiad, mae Orochimaru, un o droseddwyr mwyaf peryglus y gyfres, yn ymosod ac yn lladd y Trydydd Hokage am ddial. Yna mae un o'r tri Sannin Chwedlonol, Jirayia, yn gadael Konoha er mwyn chwilio am un o'r Sannin Chwedlonol arall, Tsunade. Penderfynwyd taw Tsunade dyle fod y Hokage newydd, gan fod hi yw'r unig berson addas am y swydd.

O fewn y chwiliad mae Orochimaru yn cymryd diddordeb mewn Sasuke oherwydd medr llinach y clan Uchiha, sef y Sharingan. Wrth gredu bydd Orochimaru yn rhoi pŵer i Sasuke er mwyn lladd ei frawd, Itachi Uchiha, mae Sasuke yn ei erlid. Erbyn hynny, mae Tsunade wedi derbyn swydd y Pumed Hokage ac yn danfon grŵp o ninja, gan gynnwys Naruto, er mwyn casglu Sasuke. Nid yw Naruto yn gallu trechu Sasuke ac felly un methu dod a Sasuke nôl i Konoha. Er hynny, nid yw Naruto yn fodlon i ildio ar y chwiliad i Sasuke, ac yn gadael Konoha gyda Jirayia am ddau a hanner flwyddyn er mwyn ymarfer a dod yn fwy cryf ar gyfer ei gyfarfod nesaf gyda Sasuke.

Wrth i Naruto ymarfer, mae cyfundrefn ryfedd sydd yn cael ei adnabod fel Akatsuki yn trio cael gafael ar y sawl Jinchuuriki, er mwyn cael gafael ar y bwystfil cynffonnol tu fewn iddynt. Mae Akatsuki yn llwyddiannus wrth gasglu saith o'r bwystfil cynffonnol, gan gynnwys Gaara, er bod hynafwraig Chyio yn rhoi ei bywyd er mwyn dod a Gaara yn fyw ar ôl i'r bwystfil cynffonnol cael ei echdynnu. Gyda phob echdyniad arall, mae'r Jinchuuriki yn marw. Trwy gydol yr adran yma, mae Sasuke yn bradychu Orochimaru ac yn ei ladd, ac yna yn lladd Itachi Uchiha hefyd. Ar ôl hynny mae Madara Uchiha, creawdwr Akatsuki, yn dweud wrth Sasuke taw arweinyddiaeth Konoha rhoddodd cenhadaeth i Itachi i ladd ei glan. O dan orfodaeth oedd Itachi, ac felly mae Sasuke yn cynllunio i ddinistrio Konoha gyda help Karin, Juugo, a Suigetsu wrth ymuno Akatsuki.

Cwrddwn gymeriad arall sydd yn rhan o Akatsuki o'r enw Pain, sydd yn lladd Jirayia ac yn ymosod ar Konoha er mwyn casglu Jinchuuriki y nawfed bwystfil cynffonnol, sef Naruto. Mae Naruto wedi dod nôl i Konoha erbyn nawr, ac wedi dysgu sut i reoli'r Modd Doeth. Lladdwyd Pain a'i gyrff ychwanegol, ac yna mae Naruto yn argyhoeddi'r Pain cyntefig i adael Akatsuki.

Gan fod Pain yn gadael Akatsuki, mae Madara yn cyhoeddi ei fod yn cynllunio casglu'r bwystfil gynffon er mwyn creu lledrith digon pwerus i reoli dynoliaeth. Mae'r Kage o'r pum pentref ninja yn gwrthod ei helpu, ac yna yn ymuno gyda'i gilydd er mwyn ei wynebu.

Erbyn mis Ebrill 2010, fe wnaeth Naruto werthu 100.4 miliwn o gopïau a ddaeth y pumed manga gan Shueisha i werthu dros 100 miliwn. Cafodd gwaith celf y manga ei glodfori gan sawl adolygydd.

Ar restr top 100 TV Asahi, fe wnaeth Naruto derbyn safle 17 yn Hydref 2006. Cafodd Naruto ei enwi'r rhaglen wedi'i animeiddio llawn gorau at y USTv Student's Choice Awards 2009, ar y 19eg o Chwefror 2009.

Dolenni allanol

golygu