Byddin

Cyfundrefn o filwyr dan oruchwyliaeth gwladwriaeth neu awdurdod arall â'i bwrpas yw amddiffyn rhag, neu ymosod ar, elyn.

Byddin yw nifer o filwyr wedi eu casglu at ei gilydd, ac dan orchymun brenin, cadfridog neu rywun arall o awdurdod, gyda'r bwriad o ladd milwyr mewn byddin arall. Gwneir hyn gyda'r amcan o amddiffyn gwlad neu dir neu er mwyn ennill awdurdod neu dir mewn gwlad.

Mewn byddin fodern ymleddir gyda drylliau a tanciau, ond mae byddinoedd wedi bod ers miloedd o flynyddoedd.

Y milwr cyffredin golygu

  • Gwellt a gwair - chwith a de

Mae nifer o lyfrau mewn ysgolion dwyieithog yn Llydaw yn dwyn yr enw Plouz-foenn (gwellt-gwair). Cyfeiria’r teitl at amser rhyfeloedd gwahanol yn Ffrainc pan nad oedd milwyr Llydewig, ffermwyr y rhan fwyaf, nad oedd yn medru fawr o Ffrangeg, ac wrth fartchio roedd y sarjant yn gweiddi arnynt plouz-foenn yn lle un-dau neu droit-gauche.[1]

Cofiaf innau stori debyg gan dad i Richard Williams, am filwyr uniaith Cymraeg yn y rhyfel gyntaf yn martchio i synnau “gwellt-gwair” am yr un rheswm, a’r ymadrodd wedi parhau ar fferm y teulu i helpu Richard fel plentyn bach i wahaniaethu ei law chwith a’i law dde.

On a souvent pris les Bretons pour des ignares sous pretexte qu'ils matrisaient mal le francais et son raconte, sous la tour Eiffel, comment au service militaire on leur apprenait a marcher au pas en leur faisant scander non pas une-deux, une-deux, mais :
Plouz, foenn [Gwellt, gwair],
Mellou galochou... [Traed mawr].[2]

Cyfieithiad: Yn aml yn y gorffennol cymerwyd y Llydawyr fel pobl diglem am na lwyddon nhw yn aml i feistroli’r Ffrangeg a’u mán siarad Llydaweg o dan Tŵr Eiffel ... Cawson nhw eu pechu tra’n gwasanaethu yn y fyddin trwy eu dysgu i orymdeithio gyda’r geiriau gwellt-gwair, gwellt-gwair fel petaen nhw’n rhy dwp i ddeall chwith a de.

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am byddin
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. cys. pers. Dominig Kervegant
  2. Daniel Giraudon (c. 2010) Du Chéne au Roseau (Yorran Embanner)