Brenhiniaeth
(Ailgyfeiriwyd o Brenin)
Ffurf ar lywodraeth gwladwriaeth yw brenhiniaeth sy'n ymgorffori sofraniaeth ym mherson brenin neu frenhines. Mae gwerin bobl brenhiniaeth yn ddeiliaid i'r goron yn hytrach na dinasyddion fel mewn gweriniaeth.
![]() | |
Enghraifft o: | math o lywodraeth ![]() |
---|---|
Math | trefn freniniaethol ![]() |
Yn cynnwys | teyrn ![]() |
![]() |
Mae'r Deyrnas Unedig yn frenhiniaeth gyfansoddiadol a hefyd gwledydd megis Gwlad Belg, Denmarc, Sweden, Yr Iseldiroedd, a Norwy yn Ewrop. Ystyr brenhiniaeth gyfansoddiadol yw fod y brenin neu'r frenhines wedi rhoi cyfran o'i sofraniaeth i senedd y wladwriaeth. Mae yna wledydd yn y byd sydd â brenhiniaeth unbeniaethol megis Sawdi Arabia, Brwnei, Nepal, Eswatini, neu sydd â brenhiniaeth sydd bron yn unbeniaethol megis Gwlad Iorddonen, Ciwait, Qatar a Liechtenstein.