Byrfodd

(Ailgyfeiriad o Byrfoddau)

Mae byrfodd yn ffurf byr o air neu ymadrodd. Fel arfer, ond nid bob tro, mae'n cynnwys llythyren, neu lythrennau, o'r gair neu ymadrodd. Mae llawer o fyrfoddau traddodiadol yn yr iaith lenyddol, ond mae llawer o rai newydd yn cael eu creu er mwyn ysgrifennu negeseuon byrrach ar ffonau symudol e.e. ctl sy'n tarddu o "caru ti lot".

Byrfodd
Enghraifft o'r canlynollinguistic phenomenon Edit this on Wikidata
Mathsymbol, derivative Edit this on Wikidata
Rhan osystem ysgrifennu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llythrenw

golygu
Prif: Llythrenw

Mae llythrenw yn fyrfodd sy'n cael ei greu o lythrennau cyntaf geiriau mewn ymadrodd. Yn y gorffennol, dim ond y llythrenwau oedd yn cael eu defnyddio yn gyffredinol (e.e. er enghraifft neu h.y. hynny yw) ond yn y ganrif gyntaf ar hugain, mae llawer mwy o lythrenw yn cael eu creu trwy gynnydd o ddefnyddio termau technoleg a thrwy dyfu'r defnydd mewn iaith testun ac ati.

Byrfoddau rhifau

golygu

I ysgrifennu byrfodd ar gyfer ffurfiau trefnol defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.

Byrfodd Trefnol Byrfodd Trefnol
1af cyntaf 11eg unfed ar ddeg
2il ail 12fed deuddegfed
3ydd/3edd trydydd/trydedd 13eg trydydd/trydedd ar ddeg
4ydd/4edd pedwerydd/pedwaredd 14eg pedwerydd/pedwaredd ar ddeg
5ed pumed 15fed pymthegfed
6ed chweched 16eg unfed ar bymtheg
7fed seithfed 17eg ail ar bymtheg
8fed wythfed 18fed deunawfed
9fed nawfed 19eg pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg
10fed degfed 20fed ugeinfed
       
37ain ail ar bymtheg ar hugain 50fed hanner canfed
157ain ail ar bymtheg a deugain wedi'r cant 160fed trigeinfed wedi'r cant
1277ain ail ar bymtheg a thrigain wedi'r fil a dau gant 1280fed pedwar ugeinfed wedi'r fil a dau gant
300fed tri chanfed 500fed pum canfed
1,000fed milfed 1,000,000fed miliynfed

Iaith Testun

golygu

Mae llawer o eiriau ac ymadroddion Cymraeg wedi cael eu byrfoddu i ysgrifennu negeseuon byrion iawn ar ffônau symudol. Mae'r rhan fwyaf o fyrfoddau iaith testun yn anffurfiol trwy fyrhau geiriau, ond mae llawer o lythrenwau cyffredinol mewn defnyddio cyffredinol fel ctl "Caru ti lot" ac yof "Yn ôl yn fuan"

Enwau Sefydliadau

golygu

Fel arfer, mae enwau sefydliadau a chwmnïau'n cael eu cyfieithu o'r geiriau llawn, yn achos byrfodd wahanol yn Gymraeg na'r iaith gwreiddiol.

Byrfodd Sefydliad
GiG Gwasanaeth Iechyd Gwladol
S4C Sianel Pedwar Cymru
UE Undeb Ewropeaidd
UDA Unol Daleithiau America

Er gwaethaf y ffaith bod ganddynt enwau Cymraeg, dynodir enwau rhai sefydliadau ym myrfoddau eu henwau mewn ieithoedd eraill, e.e. Saesneg.

Sefydliad Byrfodd tybiannol Byrfodd go iawn Sefydliad (yn iaith arall) Nodyn
Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog AGG CIA Central Intelligence Agency
Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig CDB BBC British Broadcasting Corporation fel arfer yn dweud "bi bi si" nid "bi bi ec"
Undeb Rygbi Cymru URC WRU Welsh Rugby Union

Teitl personol

golygu
Byrfodd Teitl Lluosog
AC Aelod Cynulliad ACau
AS Aelod Seneddol ASau
Dr Doctor -