Rhifau yn y Gymraeg

Ceir dau brif fath o eiriau am rifau naturiol yn y Gymraeg: rhifolion (un, dau, tri, ...) a threfnolion (cyntaf, ail, trydydd, ...). System ugeiniol yw'r system draddodiadol gan fwyaf, ond dyfeisiwyd system ddegol ar gyfer y rhifolion yn yr 19g. Honnir fod manteision sylweddol i'r system ddegol Gymraeg o ran dysgu rhifyddeg elfennol, o'i chymharu â'r system Saesneg a'r system draddodiadol. Y system ddegol a ddefnyddir mewn ysgolion Cymraeg. Clywir y ddwy system ar waith o hyd ond araf dihoeni o genhedlaeth i genhedlaeth mae'r defnydd o'r rhifau ugeiniol. Clywir mwy o ddefnydd ar y rhifau ugeiniol hyd at ddeg ar hugain a rhwng deugain a deg a thrigain nag a glywir ar y rhifau ugeiniol eraill.

Rhifolion golygu

Mae'r hen system a'r system ddegol yn cytuno hyd at 10. Dynoda (*) fod treiglad meddal yn dilyn, (**) treiglad llaes.

Ffurf gwrywaidd Ffurf benywaidd O flaen enw
1 un un*
2 dau* dwy*
3 tri** tair
4 pedwar pedair
5 pump pump pum
6 chwech chwech chwe**
7 saith saith
8 wyth wyth
9 naw naw
10 deg deg

Rhifolion degol golygu

Dyma'r rhifolion degol o 11 hyd at 20:

11 un-deg-un
12 un-deg-dau
13 un-deg-tri
14 un-deg-pedwar
15 un-deg-pump
16 un-deg-chwech
17 un-deg-saith
18 un-deg-wyth
19 un-deg-naw
20 dau ddeg

Mae'r rhifolion yn parhau mewn dilyniant rhesymegol, gyda'r degau fel a ganlyn

10 deg
20 dau ddeg
30 tri deg
40 pedwar deg
50 pump deg
60 chwech deg
70 saith deg
80 wyth deg
90 naw deg
100 cant

Wedi'r cant, mae'r patrwm yn newid ychydig:

101 cant ac un
102 cant a dau
103 cant a thri
... ...
199 cant a nawdeg naw
200 dau gant
201 dau gant ac un

Dyma sylfaen y rhifau mwy:

1,000 mil (benywaidd)
1,000,000 miliwn (benywaidd)
1,000,000,000 biliwn (gwrywaidd)

Hyd at 999 mae dewis cystrawen i gael i'r rhifau degol; naill ai:

  • rhif + enw unigol, e.e. wythdeg saith car
  • rhif + o + enw lluosog, e.e. wythdeg saith o geir

Gan fod mil, miliwn a biliwn yn enwau yn hytrach nag yn rifolion, dim ond y ffurf rhif + o + enw lluosog a ellir ei ddefnyddio o'r fil ymlaen, e.e. mil tri chant wythdeg saith o flynyddoedd.

Dyma enghraifft o sut i ddarllen rhifolion mawr:

2,002,593,786 dau biliwn, dwy filiwn, pump cant a nawdeg tair mil, saith gant ac wythdeg chwech

Rhifolion Ugeiniol golygu

Mae'r system draddodiadol o ffurfio rhifolion yn y Gymraeg yn ugeiniol gan fwyaf, h.y. mynegir rhifau fel rhif llai na 20 wedi ei adio at luoswm o 20. Defnyddir 10 a 15 yn ogystal â 20 fel seilrifau; e.e. tri afal ar ddeg ar hugain wedi'r cant. Y rhifau unigol yw 1 hyd 10, 15, 18, 20, 40, 60, ac 80. Mae'r rhifau yn gyfuniad o rif unigol a ddaw gyntaf, enw'r peth a gyfrifir ac yna'r seilrifau. Neu gellir nodi'r rhif yn gyntaf ac yna enwi'r grŵp o bethau a gyfrir; e.e. tri ar ddeg ar hugain wedi'r cant o afalau. Yn enwedig gyda rhifau mwy, ceir mwy nag un ffordd o'u mynegi.

11 un ar ddeg
12 deuddeg
13 tri ar ddeg
14 pedwar ar ddeg
15 pymtheg
16 un ar bymtheg
17 dau ar bymtheg
18 deunaw
19 pedwar ar bymtheg
20 ugain
30 deg ar hugain
31 un ar ddeg ar hugain
32 deuddeg ar hugain
39 pedwar ar bymtheg ar hugain (deugain namyn un)
40 deugain
41 un a deugain (deugain ac un (tafodieithol))
45 pump a deugain (deugain a phump (tafodieithol))
50 hanner cant (deg a deugain)
51 hanner cant ac un
52 hanner cant a dau
60 trigain
61 un a thrigain (trigain ac un (tafodieithol))
62 dau a thrigain (trigain a dau (tafodieithol))
70 deg a thrigain
71 un ar ddeg a thrigain
72 deuddeg a thrigain
78 deunaw a thrigain (pedwar ugain namyn dau)
80 pedwar ugain
81 un a phedwar ugain (pedwar ugain ac un (tafodieithol))
82 dau a phedwar ugain (pedwar ugain a dau (tafodieithol))
90 deg a phedwar ugain
91 un ar ddeg a phedwar ugain
92 deuddeg a phedwar ugain
99 pedwar ar bymtheg a phedwar ugain (cant namyn un)
100 cant (pum ugain)
101 cant ac un
102 cant a dau
103 cant a thri
120 cant ac ugain (chweugain)
150 cant a hanner
199 cant a phedwar ar bymtheg a phedwar ugain (dau gant namyn un)
200 dau gant
201 dau gant ac un
1000 mil
1001 mil ac un

Trefnolion golygu

Defnyddir y system ugeiniol yn unig ar gyfer trefnolion yn y Gymraeg. I ysgrifennu byrfodd ar gyfer trefnol defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.

Byrfodd Trefnol Byrfodd Trefnol
1af cyntaf 11eg unfed ar ddeg
2il ail 12fed deuddegfed
3ydd/3edd trydydd/trydedd 13eg trydydd/trydedd ar ddeg
4ydd/4edd pedwerydd/pedwaredd 14eg pedwerydd/pedwaredd ar ddeg
5ed pumed 15fed pymthegfed
6ed chweched 16eg unfed ar bymtheg
7fed seithfed 17eg ail ar bymtheg
8fed wythfed 18fed deunawfed
9fed nawfed 19eg pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg
10fed degfed 20fed ugeinfed
       
37ain ail ar bymtheg ar hugain 50fed hanner canfed
157ain ail ar bymtheg a deugain wedi'r cant 160fed trigeinfed wedi'r cant
1277ain ail ar bymtheg a thrigain wedi'r fil a dau gant 1280fed pedwar ugeinfed wedi'r fil a dau gant
300fed tri chanfed 500fed pum canfed
1,000fed milfed 1,000,000fed miliynfed

Defnydd ac arfer y gwahanol rifau golygu

Ffynonellau golygu

  • Rhiannon Ifans, Y Golygiadur (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006)
  • Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)