Byrmaneg
Iaith Dibeto-Bwrmaidd, cangen o'r teulu Sino-Tibetaidd, yw Byrmaneg sydd yn iaith swyddogol ym Myanmar. Hon yw iaith frodorol y Bamar ac ambell grŵp ethnig arall, er enghraifft y Mon. Fe'i siaredir gan drwch y boblogaeth ym Myanmar ac yn ail iaith gan y mwyafrif o siaradwyr ieithoedd eraill y wlad. Ysgrifennir mewn gwyddor sydd yn seiliedig ar yr iaith Bali.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Sino-Tibetaidd |
Enw brodorol | မြန်မာဘာသာစကား |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | my |
cod ISO 639-2 | mya, bur |
cod ISO 639-3 | mya |
Gwladwriaeth | Myanmar |
System ysgrifennu | Burmese alphabet, Mon–Burmese script |
Corff rheoleiddio | Myanmar Language Commission |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhyw 30 miliwn o bobl Myanmar sydd yn rhugl yn y Fyrmaneg, ac maent yn cyfri am tua hanner o holl siaradwyr yr ieithoedd Tibeto-Bwrmaidd. Perthyna Byrmaneg yn agos i'r ieithoedd Lolo yn y gangen hon.
Ymddangosodd y ffurf hynaf ar yr iaith, Hen Fyrmaneg, yn Nheyrnas Pagan, yn y 12g. Datblygodd yn Fyrmaneg Canol yn yr 16g, a drawsnewidiwyd yn Fyrmaneg Modern yn y 18g. Mae'r iaith safonol fodern yn hynod o wahanol i Hen Fyrmaneg o'i chymharu â thafodieithoedd megis Aracaneg.
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/