Roedd wyth cân yn cystadlu am y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Cyflwynwyd y rhaglen gan Alaw Bennett Jones ac Owain Gwilym yn Stiwdio Barcud, Caernarfon. Roedd yn gynhyrchiad Teledu Tir Glas ar gyfer S4C. Enillydd y gystadleuaeth oedd Sobin a'r Smaeliaid gyda'r gân 'Y Rasta Gwyn'.