C.P.D. Machynlleth

Sefydlwyd C.P.D. Machynlleth yn 1885. Mae wedi ei lleoli ym Machynlleth, Powys. Llysenw'r clwb yw'r Maglonians.

CPD Machynlleth FC
Enw llawnClwb Pêl-droed Machynlleth
Enw byrMach
Sefydlwyd1885
MaesCae Glas
(sy'n dal: 1,000)
CynghrairCynghrair Spar Canolbarth Cymru Adran 2

Mae'r clwb yn chwarae yng Ail Adran Cyngrair rhanbarth Spar Canolbarth Cymru (Spar Mid-Wales District League) [1] a'r tîm wrth-gefn (reserve) yng nghyngrair Cambrian Tyres Division 2 Amateur football league. Bu bron iddynt ddod i ben fel clwb yn 2005 oherwydd dyledion o oddeutu £1,000 a diffyg cefnogaeth dorfol i'r Clwb a llwyddiant chwarae y cae.[2]

Sefydlwyd yn clwb yn 1885. Enillodd y clwb Cynghrair Spar Canolbarth Cymru dair tymor yn olynnol yn yr 1990au a Cwpan Her Canolbarth Cymru yn 1994.

Bu i'r clwb hefyd ennill Cwpan Amatur Cymru yn 1902 ac 1933.[2]

Yn anffodus, C.P.D. Machynlleth sy'n gyfrifol am ddal teitl buddugoliaeth fwyaf erioed C.P.D. Tref Aberystwyth; 21-0 yn 1934.

Maes Chwarae

golygu

Maent yn chwarae ar faes Cae Glas yn y dref.[3]

  • Cartref - crys glas a gwyn stripiog fertigol; trwsus glas; sannau glas
  • Oddi Cartref - crys gwyn; trwsus glas; sannau glas

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://midwalesleague.pitchero.com/match-info/tables?division_id=42562[dolen farw]
  2. 2.0 2.1 http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/mid/4425172.stm
  3. https://euro.stades.ch/Machynlleth-1.html