C.P.D. Tref Aberystwyth

Clwb pêl-droed o dref Aberystwyth, Ceredigion yw Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.

Tref Aberystwyth
Enw llawnC.P.D. Tref Aberystwyth
LlysenwauAber
Black and Greens
The Seasiders
Sefydlwyd1884; 140 blynedd yn ôl (1884)
MaesCoedlen y Parc
Aberystwyth
(sy'n dal: 5,000 (1,002 yn eistedd))
CadeiryddDonald Kane
RheolwrTony Pennock
CynghrairUwch Gynghrair Cymru
2023/2410.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tref Aberystwyth - Dan 19
RheolwrEmyr Jones
CynghrairWPL Development League - De
2016–177fed
Tref Aberystwyth - Merched
RheolwrKevin Jenkins
CynghrairUwch Gynghrair Merched
2016–179fed
Sêr Aberystwyth - Dan Anfantais
Sefydlwyd2013
HyfforddwrMike Price, Paul-Luke Loveridge, Iestyn Jones, Eirian Reynolds,
CynghrairUwch Gynghrair Gorllewin Cymru (Dan Anfantais)
Aberystwyth v Derwyddon Cefn ar Goedlan y Parc (2023)
Coedlen y Parc, Maes Aberystwyth

Ffurfiwyd y clwb ym 1884[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, ym 1900, yn ogystal â chynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA ar dair achlysur. Maent wedi bod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ers ei sefydlu ym 1992.

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Goedlen y Parc, Aberystwyth, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Mae gan y Clwb hefyd dîm Merched, tîm anabl a gwahanol dimau ieuenctid.

Hanes Cynnar

golygu
 
Aberystwyth yn erbyn C.P.D. Derwyddon Cefn yn 2023

Ffurfiwyd y clwb ym mis Hydref 1884 wedi i Arthur Hughes, mab i gyfreithiwr lleol, osod hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn am i chwaraewyr oedd eisiau ymuno â'r clwb newydd i gyfarfod yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth ar brynhawn Sadwrn 4 Hydref.[2]. Roedd Arthur a'i frodyr Jack a Hugh yn bêl-droedwyr o fri, ac roedd Jack eisoes wedi cynrychioli Cymru ddwywaith ym 1877 a 1879 tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Dechreuodd Aber chwarae yn y Welsh League ym 1896 ond dim ond am dymor, ond chwaraeodd y clwb yn rowndiau rhagbrofol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Cymru cyn ymuno â'r Combination League ym 1899-1900[3] a cafwyd llwyddiant mwyaf y clwb yn ystod yr un tymor wrth iddynt godi Cwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes wedi buddugoliaeth 3-0 dros y C.P.D. Derwyddon Cefn[4] yn Y Drenewydd.

Ar ôl gadael y Combination League, ymunodd Aber â Chynghrair Sir Drefaldwyn a'r Cylch ym 1904[5] gan ennill sawl pencampwriaeth cyn ymuno â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig (Adran y Canolbarth) ym 1921.

Llwyddodd Aber i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1931 a 1933.

Yn ystod tymor 2021/22 daeth Aberystwyth y clwb cyntaf yn hanes i chwarae 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru[6].

Record yn Ewrop

golygu
Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
1999 Tlws Intertoto UEFA 1   Floriana 2-2 1-2 3–4
2004 Tlws Intertoto UEFA 1   Dinaburg 0–0 0–4 0–4
2014–15 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Derry City 0–4 0–5 0–9

Anrhydeddau

golygu
  • Cwpan Cymru
    • Enillwyr: 1899-1900
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 2008-09, 2013-14
  • Cwpan Amatur Cymru
    • Enillwyr: 1930-31, 1932-33, 1969-70
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1906-07, 1910-11, 1928-29, 1934-35, 1971-72

Recordiau'r clwb

golygu

Chwaraewyr nodedig

golygu

Tîm merched

golygu

Mae'r clwb hefyd yn cynnal C.P.D. Merched Tref Aberystwyth sy'n chwarae ar Goedlan y Parc ac sydd yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Bu'r tîm yn gyfrifol am chwarae y gêm gyntaf erioed yn yr hyn a ddaeth yn Uwch Gynghrair yn 2009.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Aberystwyth Town FC: History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-11. Cyrchwyd 2014-08-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Aberystwyth Town History: Arthur Hughes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-26. Cyrchwyd 2014-08-15.
  3. "Combination League 1899-1900". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Cup Final 1900". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Montgomeryshire & District League 1904-05". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Carreg filltir i Aberystwyth ar drothwy 1,000fed gêm". BBC Cymru Fyw.
  7. http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/safle/peldroed_uwchgynghrair_cymru/pages/110827.shtml
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd