C.P.D. Merched Tref Caernarfon
Mae C.P.D. Merched Tref Caernarfon yn glwb pêl-droed yng Nghaernarfon.
Enghraifft o'r canlynol | women's association football team |
---|
- Gweler hefyd C.P.D. Tref Caernarfon
Mae yna dimau yn dechrau i blant o dan 8,o dan 10, o dan 12, o dan 14, o dan 16 ac yna'r Tîm cyntaf.
Gemau/Ymarferion
golyguMae genethod y tîm cyntaf yn chwarae yn Yr Oval, Marcus Street sydd yn cael ei rannu gyda thîm dynion Caernarfon. Mae timau o dan 8,10,12,14 a 16 yn chwarae eu gemau gartref ar gae Ysgol Syr Hugh Owen. Mae o dan 8,14,16 yn ymarfer ar gae Ysgol Syr Hugh Owen ac o dan 12 yn ymarfer ar gae bob tywydd Ysgol Brynrefail yn Llanrug. Mae o dan 12,14 a 16 yn chwarae yn y ‘Nwgfl’ (North Wales Girls Football League) ac mae timau o dan 8 a 10 yn chwarae mewn twrnaments ar draws Gogledd Orllewin Cymru.
Rheolwyr
golyguDewi Owen ydi rheolwr timau o dan 8 a 10, rheolwr tîm o dan 12 yw Elain Evans, rheolwr o dan 14 yw Tania Jones a rheolwr tîm o dan 16 ydi Owain Bryn a Huw Roberts. Rheolwr y tîm cyntaf yw Keith Fearns. Lliwiau’r clwb yw Melyn a Gwyrdd.