CONMEBOL
CONMEBOL (Sbaeneg: Confederación Sudamericana de Fútbol, Portiwgaleg: Confederação Sul-Americana de Futebol, Saesneg: South American Football Confederation) yw'r corff llywodraethol ar bêl-droed yn Ne America.
Mae'n un o chwe conffederasiwn FIFA ac mae ganddo 10 o aelodau - y nifer lleiaf ymysg yr holl gonffederasiynau.