Mae'r Cabbala Hermetig (o'r Hebraeg קַבָּלָה, "derbyniad"), yn draddodiad cudd a chyfriniol o'r Gorllewin. Mae'n ffurfio athroniaeth sylfaenol a fframwaith cymdeithasau hudol megis Urdd y Wawr Euraidd a'r urddau Thelemig, cymdeithasau cyfriniol megis Adeiladwyr yr Adytwm a Chymdeithas y Rhosgroes.

Pren y Fuchedd

Mae'n cynnwys amrywiaeth o ddylanwadau, y mwyaf amlwg ohonynt ydy'r Cabbala Iddewig, sêr-ddewiniaeth y Gorllewin, y Tarot, alcemeg, Paganiaeth (yn enwedig Paganiaeth Roeg, Rhufain a'r Aifft), Neo-blatoniaeth, Gnostigiaeth, system Enochiaidd o ddewiniaeth angylaidd John Dee, Hermetigiaeth, Rhosgroesiaeth, Saeryddiaeth Rydd a Tantra. Y prif wahaniaeth rhyngddo a'r Cabbala Iddewig ydy ei fod yn system fwy syncretaidd. Serch hynny mae'n defnyddio llawer o gysyniadau'r Cabbala Iddewig.

Dwyfoldeb golygu

Mae'r Cabbala Hermetig yn ymwneud â natur ddwyfoldeb, sydd yn cael ei ystyried mewn ffordd amgen i'r hyn a geir mewn crefyddau monotheistig. Er enghraifft, does dim gwahân llym rhwng dwyfoldeb a dyn fel y gwelir mewn monotheistiaethau. Mae'r Cabbala Hermetig yn dal i'r syniad neo-blatonaidd fod y bydysawd materol yn codi o'r duwdod fel rhes o darddiadau. Mae'r tarddiadau hyn yn codi allan o dri chyflwr rhagarweiniol a ystyrir i ragflaenu creadigaeth. Y cyntaf ydy cyflwr diddymdra, sef Ain (אין, "dim"); yr ail gyfle, a ystyrir yn "astudrwydd" Ain, ydy Ain Suph (אין סוף , "heb derfyn"); y trydydd cyflwr, sy'n cael ei achosi gan "symudiad" Ain Suph, ydy Ain Suph Aur (אין סוף אור , "golau heb derfyn"), ac o'r disgleirdeb dechreuol deilliai creadigaeth.

Y Sephiroth a Phren y Fuchedd (סְפִירוֹת, unigol Sephirah סְפִירָה, "cyfrifiad") ydy enw tarddiadau'r greadigaeth sy'n codi o Ain Suph Aur. Mae yna ddeg sephirah. O Ain Suph Aur mae Kether yn dod, y sephirah cyntaf ar Bren y Fuchedd y Cabbala Hermetig, ac o Kether y mae'r sephiroth eraill yn eu tro yn deillio.

Mae pob sephirah yn cynrychioli agwedd penodol o'r "golau dwyfol", sy'n llifo allan o'r anhysbys, trwy Kether, ac yn cyrraedd y degfed sephirah, Malkuth, sef y byd materol.

Wrth wraidd y Cabbala mae yna dri chysyniad sylfaenol. Gellir galw'r tri chysyniad yma ymwybyddiaeth, grym a ffurf. Mae'r geiriau yma yn cael eu defnyddio mewn ffordd haniaethol, fel mae'r enghraifft ganlynol yn dangos: Mae dŵr yr afon yn rhedeg i lawr y bryn dan rym dwyster. Mae sianel yr afon yn ffurf sy'n cyfyngu'r dŵr i ddilyn llwybr penodol

  • Mae gwleidydd eisiau newid y gyfraith. Mae fframwaith deddfwriaethol y wlad yn ffurf fydd rhaid iddo ei ddilyn i wneud hynny.
  • Mae dŵr yn sefyll mewn jwg. Mae grym dwyster yn tynnu'r dŵr i lawr. Y jwg ydy'r ffurf sy'n rhoi ei siâp i'r dŵr.
  • Dwi eisiau ennill gêm o wyddbwyll. Mae grym fy ewyllys i wireddu hynny yn cael ei gyfyngu gan ffurf y rheolau.

Mae'r enghreifftiau yma yn dangos dau beth: prosesau naturiol a dyheadau dynol. Ond yn ôl y Cabbala does dim gwahaniaeth. Ceir rymoedd materol sy'n achosi newid yn y byd naturiol, a grymoedd seicolegol sy'n achosi inni newid y byd ac ein hunain, ond mae grym naturiol a grym seicolegol ill dau yn deillio o'r un lle: ymwybyddiaeth.

Yn yr un ffordd ceir ffurfiau sy'n rheoli'r byd materol (deddfau naturiol) a ffurfiau sydd yn fympwyol, wedi eu creu gan ddynion, fel rheolau gêm, y gyfraith, dyluniad peiriant neu gystrawen iaith, ac yn naturiol neu ddynol maen nhw hefyd yn deillio o'r un lle: ymwybyddiaeth.

Ni ellir diffinio'r "ymwybyddiaeth" yma, sy'n achosi pob ymddangosiad o rym a ffurf yn y byd naturiol a'r byd seicolegol ill dau. Mae'r sephiroth fel petai yn cynrychioli ymddangosiadau neu gyflyrau o ymwybyddiaeth, ac mae Pren y Fuchedd yn fath o fap sy'n dangos y llwybr mae ymwybyddiaeth yn ei gymryd wrth iddi deithio o'r anhysbys i'r byd materol: Kether (ymwybyddiaeth), Chokhmah (egni crai), Binah (gallu i gymryd ffurf), Chesed (creadigaeth ffurf), Geburah (distryw ffurf), Tiphareth (ymwybyddiaeth o ymwybyddiaeth), Netzach (ymwybyddiaeth o egni), Hod (ymwybyddiaeth o ffurf), Yesod (ymwybyddiaeth o'r byd) a Malkuth (y byd materol).

Rhwng y tri sephirah ar frig y Goeden a'r lleill mae yna agendor, sy'n cynrychioli'r ffin rhwng y meddwl dynol a'r meddwl dwyfol. Nodwedd y meddwl dynol ydy gweld y byd mewn termau o gyfyngiadau a deuoliaethau (amser a gofod, yma ac acw, ti a fi, da a drwg, Duw a Dyn ayyb) sy'n achosi'r ffin yma. O fewn y gagendor ceir lle a elwir Daath ("gwybodaeth"). Dydy Daath ddim yn un o'r deg sephirah, eithr yn dwll, ond stori (a throsiad) arall ydy hynny.

Y Tarot golygu

Mae'r Tarot yn bwysig i'r Cabbala Hermetig, gyda chardiau'r "Arcana Uchaf" yn cynrychioli'r sephiroth a'r llwybrau rhyngddynt. Mae'r sephiroth yn disgrifio natur Duw, tra mae'r llwybrau rhyngddynt yn disgrifio ffyrdd o ddod i adnabod Duw.

Hanes y Cabbala golygu

Cafodd y Cabbala Iddewig ei fabwysiadu gan y traddodiad Hermetig o leiaf mor gynnar â'r 15g gyda gwaith Giovanni Pico della Mirandola, athronydd o'r Eidal oedd yn hyrwyddo athroniaeth syncretaidd gan gymysgu Platoniaeth, Neo-blatoniaeth, athroniaeth Aristotel, Hermetigiaeth a'r Cabbala. Cafodd hyn ei ddatblygu ymhellach gan Athanasius Kircher, Iesuwr a hermetigydd a ysgrifennai ar y pwnc rhwng 1652 a 1654 yn yr Oedipus Aegyptiacus, gan ychwanegu mytholeg yr Aifft ac Prophiaeth at y cymysgedd o ddylanwadau. Daeth y Cabbala Hermetig i'r amlwg tua diwedd y 14g trwy The Hermetic Order of the Golden Dawn, a ddatblygodd y Cabbala ymhellach i'w wneud yn fwy cydlynus o ran cydberthnasau'r dylanwadau gwahanol, ac adio dewiniaeth angylaidd John Dee yn ogystal â dylanwadau o Seryddiaeth Rydd, o Rosgroesiaeth ac o'r Dwyrain at y cymysgedd.