Mudiad crefyddol yn seiliedig ar athroniaeth gyfrinol a flodeai yng nghanrifoedd cyntaf Cristnogaeth oedd Gnostigiaeth. Gelwir ei phleidwyr yn Nostigiaid.

Nodwedd amlycaf y Gnostigiaid oedd eu cred yn y gnosis (gair Groeg sy'n golygu 'gwybodaeth'). Roedd y gnosis yn ddatguddiad cyfrinol o'r realiti dwyfol a roddwyd i ddisgyblion Gnostig gan Dduw. Roedd y gnosis yn sicrhau Iachawdwriaeth i'r credadun hefyd.

Amlygai Gnostigiaeth ei hun mewn sawl ffordd ac roedd yn cynnwys elfennau a fenthyciwyd o arferion a defodau hud paganiaid yr Henfyd ac yn arbennig felly crefydd Mesopotamia, Persia a'r Hen Aifft. Gellid ei hystyried ar un ystyr yn barhâd Cristnogol, neu led-Gristnogol, o gyfrin-grefyddau (e.e. Mithräeth ac Isis) yn ystod y blynyddoedd olaf o'r Ymerodraeth Rufeinig. Nid un mudiad â chorff canolog yn ei reoli oedd Gnostigaieth ond yn hytrach gasgliad o grwpiau llai. Roedd Cristnogion uniongred a Thadau'r Eglwys fel Tertullian yn eu hystyried yn hereticiaid ac yn eu collfarnu'n hallt.

Roedd ganddynt fyd-olwg deuoliaethol: Duw oedd Daioni a'r byd materol yn Ddrygioni. Roeddynt yn gwrthod dynoldeb Crist ac yn credu yn ei ddwyfoldeb yn unig. Credant fod Crist fel ymgnawdoliad o Dduw wedi'i anfon i'r byd er mwyn achub 'gronynnau' o ysbryd (yr enaid, fwy neu lai) oedd wedi'u dal yn y cnawd a'u dallu ganddo. Credent ar ddiwedd y byd y bydd Duw yn anfon Gwaredwr a fydd yn dryllio teyrnas Drygioni am byth.

Cafodd Gnostigiaeth ddylanwad mawr ar enwad y Manicheiaid a gwelir ei hôl ar rai o heresïau mawr yr Oesoedd Canol yn ogystal.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.