Cabinet Cudd

amgueddfa yn yr Eidal

Casgliad o gelf erotig o ddinasoedd Pompeii a Herculaneum yw'r Cabinet Cudd (Eidaleg: il Gabinetto Segreto), a gedwir yn Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol Napoli. Dim ond ers 2005 y mae'r casgliad hwn, a gedwir ar wahân o hyd, yn agor i'w weld gan y cyhoedd. Mae'n cynnwys rhai o weithiau erotig enwocaf yr Henfyd, yn gerfluniau a murluniau, gemau a gwrthrychau eraill.

Murlun o Pompeii, un o weithiau llai agored pornograffig y casgliad

Roedd meddylfrydd y Rhufeinwyr yn wahanol iawn i'n meddylfryd ceidwadol ni heddiw.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gweler Paul Veyne, "Pleasures and excesses" in A History of Private Life: From Pagan Rome to Byzantium, Philippe Ariès and Georges Duby, eds. (Harvard University Press) 1987:183-207.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: