Dinas Rufeinig a gladdwyd gan ffrwydrad Mynydd Feswfiws yn 79 OC yw Pompeii. Saif gerllaw dinas Napoli yn rhanbarth Campania.

Pompeii
Mathsafle archaeolegol, dinas hynafol Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPompei Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Arwynebedd98.05 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.75056°N 14.48972°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Stryd yn Pompeii

Pan ffrwydrodd Feswfiws ar 24 Awst 79, dinistriwyd Pompeii a thref gyfagos Herculaneum. Claddwyd y dref gan lwch a lludw o'r ffrwydrad, a bu ar goll hyd iddi gael ei hail-ddarganfod yn 1748. Oherwydd hyn, mae'r adeiladau wedi eu cadw mewn cyflwr rhyfeddol o dda, ac mae'r gweddillion wedi dod yn Safle Treftadaeth y Byd ac yn un o atyniadau mwyaf yr Eidal i dwristiaid, gydag oddeutu 2.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Credir i Pompeii gael ei sefydlu yn y 7fed neu'r 6eg ganrif CC, gan yr Osci, un o bobloedd canolbarth yr Eidal. Daeth dan ddylanwad Rhufain o'r 4 CC ymlaen. Cymerodd ran yng ngwrthryfel dinasoedd Campania yn erbyn Rhufain tua 90 CC, ond yn 89 CC gosodwyd y ddinas dan warchae gan Sulla. Yn 80 CC, wedi i ddinas Nola syrthio, gorfodwyd Pompeii i ildio i Rufain. Sefydlwyd llawer o gyn-filwyr o'r llengoedd yno, a chafodd yr enw Colonia Cornelia Veneria Pompeianorum. Datblygodd y ddinas yn ganolfan fasnach bwysig a llewyrchus.

Cedwir llawer o'r gwaith celf a ddarganfuwyd yn Pompeii yn Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol Napoli.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu