Cabinet yr Unol Daleithiau

Mae Cabinet yr Unol Daleithiau (Saesneg: Cabinet of the United States) yn rhan weithredol o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau sydd fel arfer yn ymddwyn fel corff cynghori i Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Yn rhan o'r Cabinet, y mae swyddogion a benodir uchaf o gangen weithredol y llywodraeth, ac y maent yn gwasanaethu o dan yr Arlywydd. Cynhhwysa'r rhain yr Is-Arlywydd a phenaethiaid yr adrannau gweithredol ffederal. Gwasanaetha aelodau'r Cabinet (ac eithrio'r Is-Arlywydd) er pleser yr Arlywydd.

Gall holl swyddogion cyhoeddus ffederal, gan gynnwys aelodau'r Cabinet, eu huchelgyhuddo gan Dŷ'r Cynrychiolwyr. Yn ogystal, mae'n bosibl iddynt gael eu rhoi ar dreial yn y Senedd ar gyfer "brad, llwgrwobrwyo, ac uchel droseddau a chamymddygiadau".

Cabinet presennol golygu

Dyma 16 prif aelod Cabinet yr Unol Daleithiau yn nhrefn olyniaeth i'r Arlywyddiaeth.

Cabinet
Swydd Deiliad Dechrau tymor
 
Is-Arlywydd
 
20 Ionawr 2021
 
Ysgrifennydd Gwladol
 
Antony Blinken
26 Ionawr 2021
 
Ysgrifennydd y Trysorlys
 
25 Ionawr 2021
 
Ysgrifennydd Amddiffyn
 
Lloyd Austin
22 Ionawr 2021
 
Twrnai Cyffredinol
 
Merrick Garland
11 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Mewnol
 
Deb Haaland
16 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Amaethyddiaeth
 
Tom Vilsack
24 Chwefror 2021
 
Ysgrifennydd Masnach
 
Gina Raimondo
3 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Llafur
 
Marty Walsh
23 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Dynol
 
Xavier Becerra
19 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Tai a Datblygiad Trefol
 
Marcia Fudge
10 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Trafnidiaeth
 
3 Chwefror 2021
 
Ysgrifennydd Ynni
 
Jennifer Granholm
25 Chwefror 2021
 
Ysgrifennydd Addysg
 
Miguel Cardona
2 Mawrth 2021
 
Ysgrifennydd Materion Cyn-filwyr
 
Denis McDonough
9 Chwefror 2021
 
Ysgrifennydd Diogelwch y Famwlad
 
Alejandro Mayorkas
2 Chwefror 2021