Avebury

(Ailgyfeiriad o Caer Abiri)

Meingylch, neu gylch cerrig, o Oes y Cerrig a heneb cofrestredig ydy Avebury (hen enw: Caer Abiri) sydd wedi'i lleoli mewn pentref o'r un enw ac sy'n cynnwys tri chylch cerrig. Un o'r cylchoedd hyn ydy'r cylch cerrig mwyaf yn Ewrop. Saif yn Swydd Wilton, de-orllewin Lloegr.

Avebury
Mathsafle archaeolegol, cylch cerrig, meingylch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAvebury Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.4286°N 1.8542°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEnglish Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Disgrifiad golygu

Cafodd ei chodi tua 2600 CC, yn ystod Oes Newydd y Cerrig gyda henge enfawr yn amgylchynu'r cyfan a ffos a chlawdd, gyda chylch cerrig y tu fewn - a dau gylch cerrig o fewn yr un mawr. Ni wyddom beth oedd pwrpas yr heneb hon, ond ceir sawl posibilrwydd. Cred llawer o archaeolegwyr mai pwrpas seremoniol oedd iddi. Mae'n rhan o ardal lle ceir llawer iawn o henebau tebyg, yn perthyn i'r oes Neolithig hon.

Cadwraeth golygu

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog y safle gan ei warchod a'i farchnata i dwristiaid. Mae wedi'i gofrestru ers 1986 fel Safle Treftadaeth y Byd.

Cyfeiriadau golygu