Cylch cerrig
Defnyddir y term cylch cerrig am hynafiaethau lle mae meini hirion wedi ei gosod i ffurfio cylch. Yn y Llydaweg a rhai ieithoedd eraill, defnyddir y term "cromlech" neu "krommlec'h". Gall y nifer o feini amrywio rhwng 4 a 60. Ceir rhai yng Ngwlad y Basg hefyd. Credir bod y rhain yn dyddio o'r cyfnod Neolithig neu o ddechrau Oes yr Efydd: rhwng 5,300 a 3,500 o flynyddoedd yn ôl; hynny yw, 3300 a 900 cc, cyfnod o 2,400 o flynyddoedd. Ceir llawer o esiamplau o gylchoedd cerrig yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a Llydaw. Mae 1,300 wedi'u cofnodi ond credir fod dros 4,000 ohonynt yn wreiddiol.[1]
Nid oes sicrwydd beth oedd eu pwrpas; cred rhai bod rhai o'r meini wedi eu gosod i gyfateb a lleoliad yr haul, y lleuad a/neu'r sêr ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a'u bod yn medru gweithredu fel rhyw fath o galendr.
Yng ngwledydd Llychlyn, roedd traddodiad o gylchoedd cerrig yn ystod Oes yr Haearn, yn enwedig yn Götaland. Ceir rhai yng ngogledd Gwlad Pwyl hefyd. Yng Ngorllewin Affrica, ceir cylchoedd cerrig sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng yr 8fed a'r 12g; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw cylchoedd cerrig Senegambia.
Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus o gylchoedd cerrig mae Côr y Cewri a Long Meg yn Lloegr a Calanais ar ynys Leòdhas yn yr Alban. Mae enghreifftiau yng Nghymru yn cynnwys Meini Hirion, Penmaenmawr a Chylch Cerrig Tan-y-braich ger Llanfairfechan.
Yr Alban
golyguYn ne-ddwyrain yr Alban y ceir y clwstwr mwyaf dwys o gylchoedd cerrig.[2]
Delwedd | Enw | Cyfesurynnau |
---|---|---|
Cylch cerrig Aquhorthies; ger Aberdeen, yr Alban | 57°03′N 2°09′W / 57.05°N 2.15°W | |
Cylch cerrig Callanish I; yr Alban. Enw Gaeleg: Clachan Chalanais. Diamedr y cylch: 13m gydag 13 o gerrig. |
58°11′N 6°44′W / 58.19°N 6.74°W | |
Cylch cerrig y Deuddeg Apostol, ger Dumfries, yr Alban | 55°05′N 3°39′W / 55.09°N 3.65°W | |
Cylch Brodgar, Ynysoedd Erch | 59°00′N 3°12′W / 59.00°N 3.20°W |
Cernyw
golyguCeir tua 380 o gylchoedd yng Nghernyw: 281 ohonyn nhw yng ngwaun Dartmoor a 57 ohonyn nhw yng Ngwaun Bodmin.
Delwedd | Enw | Cyfesurynnau |
---|---|---|
Cylch cerrig Merry Maidens; Cernyw | 50°04′N 5°35′W / 50.06°N 5.58°W | |
Boscawen-Un ger St Buryan. Diamedr y clych: 25m; 19 carreg yn sefyll. | 50°05′N 5°37′W / 50.09°N 5.61°W | |
Cylch cerrig Carwynnen ger pentref Mionions; ceir tair cylch. | 50°31′N 4°27′W / 50.51°N 4.45°W | |
Cylch cerrig Tregeseal ger Lannyust (St Just); roedd yma dair cylch ar un cyfnos. | 50°07′N 5°41′W / 50.12°N 5.68°W | |
Cylch cerrig Men an Toll ger Madron; tair carreg. | 50°05′N 5°22′W / 50.09°N 5.36°W | |
Cylch cerrig ger pentref Duloe, Cernyw (Dewlogh). | 50°23′N 4°29′W / 50.39°N 4.48°W | |
Cylch cerrig Castilly Henge ger Bodmin. |
Cymru
golygu
Iwerddon
golyguDelwedd | Enw | Cyfesurynnau | |
---|---|---|---|
Ardgroom De-Or Cylch a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Canfea"; mae wedi'i leoli i'r de-orllewin o bentref Ardgroom ar bentir Bara. |
51°44′N 9°53′W / 51.73°N 9.89°W | ||
Beltany Cylch o bron i 80 o gerrig yn Swydd Donegal | 54°51′01″N 7°36′17″W / 54.8504°N 7.6046°W | ||
Cylch cerrig Drombeg – Cylch a leolwyd i'r gorllewin o bentref Rosscarbery. | 51°34′N 9°05′W / 51.56°N 9.08°W | ||
Carrigagulla – 18 o gerrig wedi'u lleoli i'r gogledd o bentref Ballinagree. | 51°59′N 8°53′W / 51.99°N 8.89°W | ||
Knocknakilla – Cylch wedi'i leoli rhwng Macroom a Millstreet. | 52°00′N 8°53′W / 52.00°N 8.89°W | ||
Glantane east – rhwng Macroom a Millstreet. | 52°00′N 9°02′W / 52.00°N 9.04°W | ||
Cylch cerrig Templebryan – rhwng Bandon a Millstreet. | 51°38′N 8°53′W / 51.64°N 8.88°W | ||
Lisseyviggeen – ger Killarney. Yn lleol cânt eu galw'n "Saith Chwaer". |
Lloegr
golyguDim ond yng ngogledd a gorllewin Lloegr y ceir cylchoedd cerrig; heb gynnwys Cernyw ceir ychydig dros gant; mae 62 ohonyn nhw yn Cumbria. Mae llawer o gylchoedd pren (henges) yn ne-ddwyrain Lloegr, fodd bynnag. Ymhlith y cylchoedd cerrig mwyaf y mae:
Delwedd | Enw | Cyfesurynnau | |
---|---|---|---|
Cylch cerrig Swinside; Cumbria sydd â diamedr o 26.8m, ac sy'n cynnwys 55 carreg. | 54°17′N 3°16′W / 54.28°N 3.27°W | ||
Arbor Low; Swydd Derby. 50 carreg calchfaen, pob un yn llorweddol. | 53°06′N 1°27′W / 53.10°N 1.45°W | ||
Cylch cerrig Doll Tor; ger Birchover, Swydd Derby. Chwe charreg o'r Oes Efydd. | 53°10′N 1°38′W / 53.16°N 1.64°W | ||
Castlerigg; Cumbria. Diamedr y cylch: 33m, gyda 38 carreg. | 54°36′N 3°05′W / 54.60°N 3.09°W | ||
Long Meg; Diamedr o 100m yn ei anterth; 51 o gerrig.]] | 54°43′N 2°40′W / 54.72°N 2.66°W | ||
Avebury, Swydd Wilton, de-orllewin Lloegr. Cylch cerrig mwyaf Ewrop. | 51°25′N 1°51′W / 51.42°N 1.85°W | ||
Côr y Cewri, Swydd Wilton; | 51°06′N 4°18′W / 51.10°N 4.30°W | ||
Cylch cerrig Withypool, Gwlad yr Haf. | 51°05′47″N 3°39′37″W / 51.0963°N 3.6604°W |
Llydaw
golyguDelwedd | Enw | Cyfesurynnau |
---|---|---|
Cylch cerrig Peulvanoù Kerbourgneg; Sant-Pêr-Kiberen[3] sydd â diamedr o 26.8m, ac sy'n cynnwys 27 carreg (a 23 maen hir). | 47°31′N 3°07′W / 47.51°N 3.12°W | |
Cylch cerrig Kergonan; Enizenac'h[4], sydd â diamedr o 100 metr, ac sy'n cynnwys 24 carreg | ||
Cylch cerrig Ynys Ar Lannig; Mor Bihan[5], dau gylch cerrig, sy'n cynnwys 49 carreg yn gyfangwbl |
Dyddio radiocarbon
golyguErs y 1950au mae archaeolegwyr wedi carbonddyddio samplau oddeutu'r cerrig er mwyn dyddio'r cylch cerrig. Y cylch hynaf sydd wedi'i ddyddio (yn 2000) ydy Cylch cerrig Lochmaben yn yr Alban sydd wedi'i dyddio yn 2525 ± 85 cc. Mae'r cylch ieuengaf i gael ei godi, fodd bynnag yn dod o Iwerddon: o Dromberg yn Swydd Cork (790 ± 80 cc) a'r cylch pum carreg yn Cashelkeety, Swydd Kerry (715 ± 50 bc).
Gweler hefyd
golygu- Carnedd gellog (chambered cairn)
- Carnedd ymylfaen (kerb cairn)
- Carnedd lwyfan (platform cairn)
- Carnedd gron (round cairn)
- Carnedd gylchog (ring cairn)
- Aliniad cerrig (stone alignment)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Burl, Aubrey (2000). The Stone Circles of Britain, Ireland and Brittany. New Haven and London: Yale University Press. ISBN 978-0300083477.
- ↑ "Gwefan Megalith Map". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-28. Cyrchwyd 2012-01-02.
- ↑ Gwefan Ysbryd Llydaw; adalwyd 30/08/2012[dolen farw]
- ↑ "Gwefan Morbihan; adalwyd 01/04/2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-19. Cyrchwyd 2014-04-01.
- ↑ Gwefan Paysages de Mégalithes; adalwyd 02/04/2014