Cainc (albwm)
Trydydd albwm y gantores Gymraeg Gwyneth Glyn yw Cainc. Rhyddhawyd yr albwm ym Mai 2011 ar y label Recordiau Gwinllan.
Cainc | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Gwyneth Glyn | ||
Rhyddhawyd | Mai 2011 | |
Label | Recordiau Gwinllan |
Dewiswyd Cainc yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth golygu
Albwm orau Gwyneth Glyn o bell, bell ffordd... Alawon syml a geiriau syml sydd yma, ond eto, mae’r briodas rhwng y ddwy elfen yma mor gryf nes y mae’r cyfan yn gweithio’n berffaith.
—Gwilym Dwyfor, Y Selar