Gwyneth Glyn
Bardd, llenor a cherddor o Gymru ydy Gwyneth Glyn Evans (ganed 14 Rhagfyr 1979).
Gwyneth Glyn | |
---|---|
Gwyneth Glyn yng Ngŵyl Werin y Smithsonian, 2013 Washington, D.C. | |
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1979 Bangor |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, canwr, cyfansoddwr caneuon, llenor |
Gwefan | http://gwynethglyn.com/ |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor a magwyd yn Llanarmon, Eifionydd.
Aeth i'r ysgol yn Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, cyn mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Goleg Yr Iesu, Rhydychen.
Ymunodd â'r band Coca Rosa and the Dirty Cousins cyn rhyddhau ei halbym gyntaf, Wyneb dros dro, ar label Slacyr yn 2005. Rhyddhawyd Tonau, ei hail albym, gan ei label hi ei hun, Recordiau Gwinllan yn 2007. Ei thrydydd albym ydy Cainc, a ryddhawyd ar y cyntaf o Fehefin, 2011, hefyd ar label Gwinllan. Yn ogystal, mae hi wedi rhyddhau sengl ar y cyd gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Paid â Deud.
Hi oedd Bardd Plant Cymru, 2006–2007.
Mae hi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer Rownd a Rownd, cyfres y bu'n actio ynddi pan yn iau, a hefyd mae wedi bod yn ysgrifennu sgript Pobol y Cwm.[1][2]
Gwaith
golyguLlyfrau
golygu- Gwneud Môr a Mynydd (Gwyneth Glyn Evans, Lowri Davies, Esyllt Nest Roberts), Mehefin 2000 (Gwasg Carreg Gwalch)
- Straeon Bolwyn:Bolwyn a'r Dyn Eira Cas, Tachwedd 2000 (Gwasg Carreg Gwalch)
- Straeon Bolwyn: Bolwyn yn y Sioe Nadolig, Tachwedd 2000 (Gwasg Carreg Gwalch)
- Plant Mewn Panig!, Hydref 2004 (Dref Wen)
- Drws Arall i'r Coed, (Gwyneth Glyn Evans, Eurgain Haf Evans, Dyfrig Jones, Caryl Lewis, Manon Wyn), Chwefror 2005 (Sgript Cymru)
- Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo/Sbinia (Gwyneth Glyn a Bedwyr Rees - CD), Gorffennaf 2005 (Cwmni Recordiau Sain)
- Cyfres Pen Dafad: Aminah a Minna, Tachwedd 2005, (Y Lolfa)
- Dramâu'r Drain: Deryn Mewn Llaw, Ionawr 2006 (Y Lolfa)
- Cyfres Codi'r Llenni - Mewn Limbo: Sgript a Gweithgareddau (Gwyneth Glyn a Lowri Cynan), Ionawr 2007 (Y Lolfa)
- Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo, Mai 2007 (Y Lolfa)
- Tinboeth (gyda Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Siân Northey a Fflur Dafydd) Tachwedd 2007 (Gwasg Gwynedd)
Albymau
golygu- Wyneb Dros Dro, 2005, (Slacyr)
- Tonau, 25 Mai 2007 (Recordiau Gwinllan)
- Paid â Deud (sengl ar y cyd â Cowbois Rhos Botwnnog), 2008 (Sbrigyn Ymborth)
- Cainc, 1 Mehefin 2011 (Recordiau Gwinllan)
- Ghazalaw, 25 Medi 2015 (Marvels of the Universe)
- Tro (albwm), 2017[3] (ar label Bendigedig)
Gwobrau ac anrhydeddau
golygu- Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llŷn ac Eifionydd 1998
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Awdur:Gwyneth Glyn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback gwefan Y Lolfa
- ↑ Farming and rural news in brief:Bright lights The Daily Post 24.2.11
- ↑ "Gwyneth Glyn - Tro". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-15.
Dolenni allanol
golygu- Gwyneth Glyn – Gwestai Penblwydd, Rhaglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, BBC Cymru
- Gwefan bersonol Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback
- Taflen Adnabod Awdur Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback, Cyngor Llyfrau Cymru
- Gwefan MySpace Gwyneth Glyn Archifwyd 2007-09-03 yn y Peiriant Wayback