Caio Fernando Abreu

Nofelydd ac awdur straeon byrion Brasilaidd yn yr iaith Bortiwgaleg oedd Caio Fernando Abreu (12 Medi 194825 Chwefror 1996).

Caio Fernando Abreu
GanwydCaio Fernando Loureiro de Abreu Edit this on Wikidata
12 Medi 1948 Edit this on Wikidata
Santiago Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1996 Edit this on Wikidata
o death from AIDS-related complications Edit this on Wikidata
Porto Alegre Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrasil Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ffederal Rio Grande do Sul Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, llenor, dramodydd, nofelydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrêmio Jabuti Edit this on Wikidata

Ganed yn Santiago, Rio Grande do Sul. Bywyd y dinasoedd sydd yn gefndir i'w ffuglen, ac mae ei gymeriadau yn aml yn profi ymddieithrwch cymdeithasol neu seicolegol. Dyn hoyw oedd Abreu, ac mae nifer o'i straeon yn portreadu'r ymateb chwyrn sydd gan gymdeithas yn erbyn cyfunrywioldeb. Yn ei nofel Onde andará Dulce Veiga? (1990) mae'n ymdrin â chlefyd HIV/AIDS a'i effaith ar gymdeithas fodern. Datganodd Abreu yn 1995 ei fod yn dioddef o AIDS, a bu farw o'r afiechyd hwnnw ym Menino, Porto Alegre, Rio Grande do Sul, yn 47 oed.[1]

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Nofelau

golygu
  • Morangos Mofados (São Paulo: Editora Brasiliense, 1982).
  • Triângulo das Águas: Noturnos (Rio de Janeiro: Editora Nova Fronteira, 1983).
  • Onde andará Dulce Veiga?: Um romance B (São Paulo: Companhia das Letras, 1990).

Casgliadau o straeon byrion

golygu
  • Inventário do Irremediável: Contos (Porto Alegre: Editora Movimento, 1970).
  • Pedras de Calcutá: Contos (São Paulo: Editora Alfa-Omega, 1977).

Dramâu

golygu
  • Zona Contaminada
  • O Homem e a Mancha
  • Teatro compledo (Porto Alegre: Editora Sulina, 1997). Casgliad a olygwyd gan Luiz Arthur Nunes.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cristina Ferreira-Pinto, "Abreu, Caio Fernando" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 1.

Darllen pellach

golygu
  • F. Arenas, "Writing After Paradise and Before a Possible Dream: Brazil’s Caio Fernando Abreu", Luso-Brazilian Review 36 (1999), tt. 13–21.
  • —— "Small Epiphanies in the Night of the World: The Writing of Caio Fernando Abreu", yn Lusosex, golygwyd gan F. Arenas a S. C. Quinlan (Minneapolis: University of Minnesota Press, 2002), tt. 235–57.
  • Jeanne Callegari, Caio Fernando Abreu: inventário de um escritor irremediável (São Paulo: Seoman, 2008).