Brasil
Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol[1][2] (Portiwgaleg: República Federativa do Brasil). Wrwgwái, Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.
Gweriniaeth Ffederal Brasil República Federativa do Brasil | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth seciwlar, rheol un gyfraith i bawb, gwlad, gwladwriaeth ffederal |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caesalpinia echinata |
Prifddinas | Brasília |
Poblogaeth | 203,062,512 |
Sefydlwyd | 7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrth Portiwgal) 29 Awst 1825 (Cydnabod) 15 Tachwedd 1889 (Gwladwriaeth) |
Anthem | Hino Nacional Brasileiro |
Pennaeth llywodraeth | Luiz Inácio Lula da Silva |
Cylchfa amser | UTC−02:00, UTC−02:00, UTC−03:00, UTC−03:00, UTC−03:00, UTC−04:00, UTC−04:00, UTC−05:00 |
Nawddsant | Our Lady of Aparecida |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Ibero-America, De De America, De America |
Gwlad | Brasil |
Arwynebedd | 8,515,767 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Afon Amazonas, Afon Paraná, Afon São Francisco |
Yn ffinio gyda | yr Ariannin, Bolifia, Guyane, Gaiana, Paragwâi, Periw, Swrinam, Wrwgwái, Feneswela, Colombia, Ffrainc |
Cyfesurynnau | 14°S 53°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Ffedral Brasil |
Corff deddfwriaethol | Cynghrair Genedlaethol Brasil |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Brasil |
Pennaeth y wladwriaeth | Luiz Inácio Lula da Silva |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Brasil |
Pennaeth y Llywodraeth | Luiz Inácio Lula da Silva |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,649,623 million, $1,920,096 million |
Arian | Brazilian real |
Canran y diwaith | 7 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.74 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.754 |
Taleithiau
golyguCaiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod ar faner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith.
- Prif: Taleithiau Brasil
Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau:
Nº1 | Talaith | Talfyriad | Pobl. (2008) | Arwynebedd (km²) | Prifddinas |
---|---|---|---|---|---|
1 | Acre | AC | 692.000 | 153.149 | Rio Branco |
2 | Alagoas | AL | 3.173.000 | 27.933 | Maceió |
3 | Amapá | AP | 626.000 | 143.453 | Macapá |
4 | Amazonas | AM | 3.399.000 | 1.577.820 | Manaus |
5 | Bahia | BA | 14.561.000 | 567.295 | Salvador |
6 | Ceará | CE | 8.472.000 | 146.348 | Fortaleza |
7 | Espírito Santo | ES | 3.448.000 | 46.184 | Vitória |
8 | Goiás | GO | 5.870.000 | 341.289 | Goiânia |
9 | Maranhão | MA | 6.400.000 | 333.365 | São Luís |
10 | Mato Grosso | MT | 3.010.000 | 906.806 | Cuiabá |
11 | Mato Grosso do Sul | MS | 2.372.000 | 358.158 | Campo Grande |
12 | Minas Gerais | MG | 19.904.000 | 588.383 | Belo Horizonte |
13 | Pará | PA | 7.367.000 | 1.253.164 | Belém |
14 | Paraíba | PB | 3.794.000 | 56.584 | João Pessoa |
15 | Paraná | PR | 10.605.000 | 199.709 | Curitiba |
16 | Pernambuco | PE | 8.745.000 | 98.937 | Recife |
17 | Piauí | PI | 3.164.000 | 252.378 | Teresina |
18 | Río de Janeiro | RJ | 15.685.000 | 43.909 | Rio de Janeiro |
19 | Rio Grande do Norte | RN | 3.153.000 | 52.796 | Natal |
20 | Rio Grande do Sul | RS | 10.860.000 | 269.153 | Porto Alegre |
21 | Rondônia | RO | 1.519.000 | 238.512 | Porto Velho |
22 | Roraima | RR | 421.000 | 225.116 | Boa Vista |
23 | Santa Catarina | SC | 6.091.000 | 95.442 | Florianópolis |
24 | São Paulo | SP | 40.764.000 | 248.808 | São Paulo |
25 | Sergipe | SE | 2.030.000 | 21.910 | Aracaju |
26 | Tocantins | TO | 1.303.000 | 278.420 | Palmas |
27 | Distrito Federal | DF | 2.526.000 | 5.822 | Brasilia |
Daearyddiaeth Brasil
golygu- Prif: Daearyddiaeth Brasil
O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgwái, yr Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sef Tsile ac Ecwador.
Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig Afon Negro.
Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paraná, yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwâi a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno â hi.
Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.
Hanes Brasil
golygu- Prif: Hanes Brasil
Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.
Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.
Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.
Ar 7 Medi 1822 cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny.
Demograffeg Brasil
golygu- Prif: Demograffeg Brasil
Dinasoedd mwyaf Brasil yw:
- São Paulo (11.037.593 hab)
- Rio de Janeiro (6.186.710 hab)
- Salvador (2.998.056 hab)
- Brasilia (2.606.885 hab)
- Fortaleza (2.505.552 hab.)
- Belo Horizonte (2.452.617 hab)
- Curitiba (1.851.215 hab)
- Manaus (1.738.641 hab)
- Recife (1.561.659 hab)
- Belém (1.437.604 hab)
- Porto Alegre (1.436.124 hab)
- Guarulhos (1.299.283 hab)
- Goiânia (1.281.975 hab)
- Campinas (1.064.669 hab)
Gwleidyddiaeth Brasil
golygu- Prif: Gwleidyddiaeth Brasil
Iaith a Diwylliant
golygu- Prif: Diwylliant Brasil
Iaith
golyguPortiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal.
Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg.
Diwylliant
golyguCeir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig.
O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forró, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog.
Crefydd
golyguYr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill.
Chwaraeon
golyguPêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r tîm cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o bêl-droedwyr Brasil yw Pelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y pêl-droediwr gorau yn hanes y gêm.
Bwyd a diod
golyguBrazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ I'w weld ar y gwefan cenedlaethol
- ↑ Grids & Datums – Federative Republic of Brazil. Ionawr 2009. http://www.asprs.org/resources/GRIDS/01-2009-brazil.pdf. Adalwyd 2010-05-09.
- ↑ Jeff Neilson, Bill Pritchard (26 Gorffennaf 2011). Value Chain Struggles. John Wiley & Sons. t. 102.
Dolenni allanol
golygu- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Delweddau Brasil