Tegan rhyw yw cala goeg (Saesneg a sawl iaith arall: dildo), sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod hunan leddfu (halio neu fastyrbio) neu wrth gael cyfathrach rywiol. Mae o siâp pidyn fel arfer, ac mae'n cael ei roi i mewn i'r wain neu'r anws. Nid oes gan gala goeg gyffredin drydan; ond defnyddir cryno ddic (sy'n fwy soffistigedig) gan lawer gan fod modur trydan yn ei yrru, a'r pleser (yn llawer) yn fwy. Ceir rhai mathau gyda strap i'w ddal yn ei le pan fo dwy ferch yn ei ddefnyddio; gelwir y math hwn yn gala strap mewn rhai rhannau o Ddyfed,[angen ffynhonnell] a strap on yn Saesneg yn gyffredinol.

Cala goeg
MathTeganau rhyw, ffalws Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dau galiau goegs.
Gwraig yn pegio dyn gyda chala strap.

Fe'i defnyddir trwy ei roi yn y corff tra'n hunan leddfu a'i siglo nôl ac ymlaen. Ceir gwahanol siapau a lliwiau di-ri.

Enwau arall

golygu

Enwau arall arno yw: dildan, gwain-goswr, hudlath y forwyn, peiriant pleser a teclyn ticlo.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato