Hen ddinas yn perthyn i wareiddiad y Maya ym Mecsico yw Calakmul. Roedd yn un o ddinasoedd mwyaf y Maya yn ystod y Cyfnod Clasurol. Saif ynghanol y goedwig drofannol yn nhalaith Campeche ar benrhyn Yucatán.

Calakmul
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolCalakmul Biosphere Reserve Edit this on Wikidata
SirBwrdeistref Calakmul Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd331,397 ha, 391,788 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau18.105°N 89.8106°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, eiddo diwylliannol, cadwriaethol Edit this on Wikidata
Manylion

Enw'r hen drigolion ar eu dinas oedd Kaan. Daeth i amlygrwydd tua 500 OC. Yn 546, gorfododd y ddinas dywysog Naranjo i ildio ei orsedd i un o gyngheiriaid Calakmul, ac o ganlyniad, daeth yn elyn i ddinas Tikal. Yn 562 gorchfygwyd Tikal gan Caracol, un o gyngheiriad Calakmul, a daeth Calakmul i fod y fwyaf pwerus o ddinasoedd y Maya. Ceor sawl pyramid yn y ddinas o'r cyfnod yma.

Calakmul

Yn 695, llwyddodd Tikal a'i chyngheiriaid Palenque a Yaxchilán i orchfygu Yuknoom Yich'aak K'ak, brenin Calakmul. Ymddengys i Calakmul adennill ei hanibyniaeth yn y 9g. Dyddia'r arysgif olaf o'r ddinas o 909. Dynodwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2002.