Pobl sy'n byw yn ne Mecsico a rhan ogleddol Canolbarth America yw'r Maya (Maya Yucateg: maaya'ob, Sbaeneg: mayas). Heddiw, mae rhwng 8 a 9 miliwn ohonynt, yn perthyn i 29 grŵp ethnig gwahanol. Ceir 6 miliwn yn Gwatemala, 2,5 miliwn yn Mecsico a rhai miloedd yn El Salvador, Belîs a Hondwras. Yn y cyfnod cyn i'r Ewropeaid gyrraedd yr ardaloedd hyn, roedd Gwareiddiad y Maya yn un o wareiddiadau mawr cyfandir America.

Maya
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig, Mesoamerican civilization Edit this on Wikidata
MamiaithMayan, sbaeneg, saesneg edit this on wikidata
Poblogaeth65,000,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth, protestaniaeth, religión chile edit this on wikidata
GwladwriaethEl Salfador, Mecsico, Gwatemala, Belîs, Hondwras, De Corea Edit this on Wikidata
Tiriogaethau'r Maya a'i hen ddinasoedd pwysicaf

Credir fod y Maya wedi datblygu diwylliant unigryw erbyn tua 2000 CC yn y Sierra de los Cuchumatanes yng ngorllewin Guatemala. Nid yw'n eglur ymhle roedd y ffîn rhwng y Maya a'u cymdogion, yr Olmec yn y cyfnod hwnnw. Ceir adeiladau yn dyddio o'r 3 CC yn Cival yn Guatemala. Yn ddiweddarach, datblygodd dinasoedd enwog Tikal, Palenque, Copán a Calakmul.

Seilid y diwylliant ar amaethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion mae pyramidau a phalasau. Ystyrir eu cerfluniau o'r cyfnod clasurol (tua 200-1200) ymhlith celfyddyd orau y cyfandir. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwyddor debyg i ysgrifen hieroglyffig yr Hen Aifft.

Dechreuodd diwylliant y Maya ddirywio o'r 8g ymlaen, gyda nifer o ddinasoedd yn mynd yn anghyfannedd. Ceir rhywfaint o dystiolaeth archaeolegol am ryfeloedd yn y cyfnod hwn. Parhaodd y diwylliant ar benrhyn Yucatán ac ucheldiroedd Guatemala. Ymhlith dinasoedd enwog Yucatán roedd Chichén Itzá, Uxmal, Edzná a Cobá. Yn ddiweddarach, daeth dinas Mayapan i reoli'r Yucatán, hyd nes bu gwrthryfel yn ei herbyn yn 1450.

Pyramid yn Comalcalco

Y Gorchfygwyr golygu

Nid ildiodd y deyrnas Maya olaf i'r Sbaenwyr tan 1647, rhyw 170 o flynyddoedd ar ôl yr ymosodiadau cyntaf.