Calanais
Cylch cerrig cynhanesyddol a phentref ar ochr orllewinol ynys Leòdhas yn Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban yw Calanais, Clachan Chalanais neu Tursachan Chalanais (Saesneg Callanish). Gair Gaeleg yw Calanais. Fe'i lleolwyd ar hyd yr A858, rhwng Breasclete a Garynahine.[1]
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 58.2°N 6.7°W |
Credir i'r safle gael ei hadeiladu rhwng 3,000 a 2,000 CC. Ymddengys i'r defnydd o'r safle ddod i ben rhwng 2000 CC a 1700 CC. Y brif elfen yw cylch cerrig a elwir yn Callanish 1 gan archaeolegwyr, gyda 13 o feini yn ffurfio cylch tua 13 medr ar draws. Mae uchder y meini rhwng 1m a 5m , 4m ar gyfartaledd. Ceir beddrod dan garnedd yma hefyd.
Ceir canolfan i ymwelwyr o fewn tafliad carreg i'r cerrig.