Roedd John Rackham ( 26 Rhagfyr, 1682 – 18 Tachwedd, 1720), a oedd yn cael ei adnabod fel Calico Jack, yn forleidr Seisnig a oedd yn gweithredu yn y Bahamas ac yng Nghiwba yn gynnar yn y 18g. Roedd ei lysenw'n deillio o'r dillad calico a wisgai, tra bod Jack yn foesenw ar gyfer "John".

Calico Jack
Ganwyd27 Rhagfyr 1682 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1720, 17 Tachwedd 1720 Edit this on Wikidata
Port Royal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd, môr-leidr Edit this on Wikidata
PartnerAnne Bonny Edit this on Wikidata

Roedd Rackham yn weithgar rhwng 1718 a 1720, yn ystod "Oes Aur y Môr-ladron" a barhaodd rhwng 1650 a 1725. Fe'i cofir yn bennaf am gael dwy aelod benywaidd yn ei griw: Mary Read a'i gariad, Anne Bonny.

Diorseddodd Rackham Charles Vane o'i swydd fel capten y sloop Ranger, ac yna mordeithio Ynysoedd Leeward, Sianel Jamaica a'r Windward Passage. Derbyniodd bardwn ym 1719 a symudodd i New Providence, lle cyfarfu ag Anne Bonny, a oedd yn briod â James Bonny ar y pryd. Dychwelodd i fôr-ladrata ym 1720 trwy ddwyn sloop Prydeinig ac ymunodd Anne ag ef. Roedd eu criw newydd yn cynnwys Mary Read, a oedd yn cel-wisgo fel dyn ar y pryd. Ar ôl ychydig o lwyddiant, cipiwyd Rackham gan yr heliwr môr-ladron Llynges Frenhinol Prydain, Jonathan Barnet ym 1720.[1] Cafodd ei roi ar brawf gan Syr Nicholas Lawes, Llywodraethwr Jamaica, a chafodd ei grogi ym mis Tachwedd y flwyddyn honno yn Port Royal, Jamaica.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Charges of Piracy Against Calico Jack and his Crew". Pirate Documents. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Hydref 2014. Cyrchwyd 14 Mawrth 2014.
  2. "Did English pirate Calico Jack design the Jolly Roger?". Telegraph. 5 Rhagfyr 2016.